Gofynnwyd i nifer fach o ddisgyblion yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy'n teithio ar yr un bws â'r achos bositif a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod hefyd fel mesur rhagofalus yn y lle cyntaf. Daw'r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Bro Pedr.
Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer bach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob rhiant.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
09/12/2020