Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Dihewyd hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Fodd bynnag, bydd yr ysgol ar gau heddiw, 3 Rhagfyr 2020 fel mesur rhagofalus ac i alluogi pob cyswllt i gael eu hadnabod ac ar gyfer glanhau trylwyr. Bydd yr ysgol yn ail-agor yfory ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff nad ydynt wedi'u hadnabod fel cysylltiadau.

Gofynnwyd i'r Grŵp Cyswllt hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
• tymheredd uchel
• peswch parhaus newydd
• colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf arlein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

03/12/2020