Bydd dirprwyaeth fasnach o fusnesau Canolbarth Cymru yn ymweld â’r Senedd yn ddiweddarach y mis yma i ddwyn sylw Llywodraeth Cymru at uchelgais economaidd a dyheadau’r rhanbarth o ran buddsoddi.

Trefnir y digwyddiad – a gynhelir ar 31 Ionawr – gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a bydd yn arddangos pa mor unigryw yw’r rhanbarth ac yn hyrwyddo diwydiannau’r ardal, gan gynnwys ceir hydrogen a adeiladir ym Mhowys, cyfleusterau ymchwil gyda’r gorau yn y byd yn Aberystwyth a busnesau o bwys rhanbarthol i’r economi wledig a thwristiaeth.


Bydd hefyd yn hyrwyddo’r cyfleoedd economaidd enfawr ar draws y rhanbarth ac yn tanlinellu’r angen am fuddsoddiad cyhoeddus ynghyd â Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru.


Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, Rosemarie Harris; “Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau ymgysylltu â’r prif benderfynwyr yn Llywodraeth Cymru ac economi Canolbarth Cymru a chreu cysylltiadau â busnesau ar hyd a lled Cymru. Hefyd bydd cymorth a chefnogaeth ar gael i bobl sy’n dymuno byw neu weithio yng Nghanolbarth Cymru neu hyd yn oed lleoli eu busnes yma.”


Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn; “Os yw ein cymunedau am fod yn llewyrchus yn y dyfodol, mae angen busnesau ffyniannus ac amrywiol yng Nghanolbarth Cymru. Bydd busnesau Canolbarth Cymru i’w gweld yn amlwg yn y Senedd ar 31 Ionawr a byddant yn arddangos yr uchelgais sy’n perthyn i gymunedau a busnesau’r rhanbarth.”


Noddir y digwyddiad gan Alodau Cynulliad o Ganolbarth Cymru gan gynnwys Russell George, sef y Prif Noddwr, Kirsty Williams ac Elin Jones. Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys ill dau yn cefnogi’r digwyddiad ynghyd ag asiantaethau sy’n rhoi cymorth i fentergarwch yn rhanbarth Canolbarth Cymru.


“Rwy’n falch o fod yn Brif Noddwr i’r digwyddiad hwn a fydd yn darparu cyfle cyffrous i ddirprwyaeth fasnach Canolbarth Cymru arddangos i’r Senedd y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan fusnesau Powys a Cheredigion,” meddai Russell George AC.


“Bydd yn cynnig cyfle i benderfynwyr o bob rhan o Gymru weld drostyn nhw’u hunain lawer o’r busnesau eithriadol sy’n gweithredu yng Nghanolbarth Cymru, a gobeithio y bydd hefyd yn helpu i hybu’r achos dros Fargen Twf i Ganolbarth Cymru gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.


Byddwn yn annog busnesau’r rhanbarth yn daer i fynychu ac rwy’n edrych ymlaen at siarad â’r rheiny fydd yn dod draw ar y diwrnod.”


Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10yb a bydd yno arddangosfa o ddiwydiannau Canolbarth Cymru ac o gyfleoedd i fuddsoddi.


Cynhelir cinio rhwydweithio rhwng 12yp a 2yp gyda siaradwyr gwadd, gan gynnwys Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Chludiant; y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; a’r Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys.


Bydd yr arddangosfa’n rhedeg hyd 3yp.


Gellir ymweld â’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac rydym yn annog cynifer â phosibl o fusnesau Canolbarth Cymru, ac yn wir Cymru gyfan, i ymuno â ni ar y diwrnod iddynt gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig yng Nghanolbarth Cymru. I fanteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych yma, cadwch eich lle yn y digwyddiad drwy fynd i:


https://www.growinpowys.com

 

18/01/2019