Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau codi sbwriel ledled Ceredigion ym mis Chwefror 2018. Bydd y digwyddiadau ar agor i’r cyhoedd a chaiff eu hwyluso gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion. Byddent yn darparu offer codi sbwriel yn ogystal â diodydd a byrbrydau.

Mae Ceredigion yn ffodus i gael nifer o grŵpiau lleol ac ysgolion sydd yn cynnal digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd yn eu hardaloedd ac ar draethau lleol. Mae grŵpiau a drefnir gan grwpiau cenedlaethol megis Cadw Cymru’n Daclus, Surfers Against Sewage a The Marine Conservation Society hefyd yn cyfrannu’n fawr i gynnal arfordir Ceredigion. Mae’r cyfuniad o lanwau uchel, stormydd y gaeaf a’r 8 miliwn o ddarnau plastic sy’n mynd i’r moroedd pob dydd yn arwain tuag at gasgliad o sbwriel ar draethau Ceredigion.

Cynhaliwyd y digwyddiad casglu sbwriel cyntaf yng Nghoed Geufron ym Mhenparcau ar 8 Chwefror. Mwynhaodd gwirfoddolwyr dwy awr o godi plastig wedi ei daflu a gwastraff arall – ac yn cael effaith arwyddocaol ar yr ardal leol.

Cynhelir y digwyddiadau yn;
• Traeth Borth ar 14 Chwefror rhwng 10yb a 12yp. Y maes parcio gyferbyn â’r clwb golf ydy’r man cwrdd.
• Traeth Ynyslas, ar 22 Chwefror rhwng 2yp a 4yp. Maes parcio y Clwb Golff yn Ynyslas ydy’r man cwrdd.
• Parc y Llyn, Llanbadarn ar 27 Chwefror rhwng 10yb a 12yp. Maes parcio Morrison’s gyferbyn y llwybr seiclo ydy’r man cwrdd.

Dywedodd Rachel Mills, Swyddog Diogelu’r Amgylchedd Cyngor Sir Ceredigion, “2018 yw ‘Blwyddyn y Môr’ CroesoCymru, dathliad o lwybr arfordirol 870-milltir Cymru, 230 o draethau a 50 o ynysoedd; felly pa gwell amser sydd i ymuno â nifer gynyddol o wirfoddolwyr yn atal sbwriel? Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud newid go iawn i’r nifer o blastig sydd ar ein traethau yng Ngheredigion.”

Anogir gwirfoddolwyr i wisgo dillad addas. I gymryd rhan mewn digwyddiad sydd wedi ei drefnu, neu os hoffech drefnu digwyddiad eich hun ac rydych eisiau benthyg offer codi sbwriel, cysylltwch â Rachel.Mills@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch Rachel Mills ar 07871 275241.

09/02/2018