Fel rhan o’r Wythnos Gofalwyr, mae unigolion a sefydliadau’n dod ynghyd i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau ledled y DU i dynnu sylw at bwysigrwydd gofalu. Eleni, mae Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion a’u partneriaid yn y trydydd sector yn eich gwahodd i ddiwrnod ymlacio a magu nerth ar ddydd Mawrth, 11 Mehefin ym Mhlas Rhosygilwen, Cilgerran.

Cynhelir yr Wythnos Gofalwyr rhwng dydd Llun 10 Mehefin a dydd Sul, 16 Mehefin ac maent yn ymgyrch flynyddol i gydnabod eu cyfraniad i’w teuluoedd a’u cymunedau.

Dewch draw ac fe gewch elwa ar y cyfan neu ar rai o’r pethau canlynol a fydd ar gael ar y diwrnod:
• Lluniaeth a chinio am ddim – cynnyrch lleol a’r bwyd wedi ei baratoi’n ffres
• Teithiau tywys o gwmpas y gerddi Fictorianaidd, yr ardd goed a’r ystâd
• Golygfeydd ysblennydd dros fynyddoedd y Preseli
• Tylino’r dwylo
• ‘Dewch i Ganu’ - sesiwn ganu dan arweiniad
• Sesiwn dan arweiniad ar Lesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Gofalwyr
• Ystod o sefydliadau wrth law i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
• Gweithgareddau celf a chrefft

Heather West yw’r Swyddog Arweiniol Gofalwyr Ceredigion i’r Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae’r digwyddiad hwn am ddim i bob Gofalwr – rydych yn Ofalwr os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind. Dewch i ymlacio mewn lleoliad prydferth ac i fwynhau’r awyr iach yn heddwch a llonyddwch cefn gwlad. Dewch i siarad â Gofalwyr eraill a gadewch i ni roi’r pleser i chi o gael ychydig o amser i chi eich hun a chael dathlu’r cyfan yr ydych chi’n ei wneud dros eich anwyliaid.

Gallwch hefyd dilyn y digwyddiad ar dudalen Facebook y Cyngor i gadw nodyn atgoffa! Os hoffech ddod, ond ddim yn siŵr sut y gallwch ymdopi â hynny, ffoniwch ni a gwnawn ein gorau i’ch helpu chi. Mae archebu lle’n hanfodol i’r digwyddiad yma.”

Yn aml, nid yw Gofalwyr yn cael digon o gydnabyddiaeth mewn unrhyw ran o’u bywydau: gan gyflogwyr, meddygon teulu a gweithwyr cymdeithasol, na ffrindiau a pherthnasau hyd yn oed. Oherwydd nad ydynt yn cael digon o gydnabyddiaeth, mae Gofalwyr yn dioddef mwy nag y dylent, ac maent yn wynebu anawsterau o ran arian, iechyd, swyddi, bywyd cymdeithasol a lles cyffredinol.

Drwy ddarparu gofal am ddim i rywun sy’n sâl, yn fregus, yn anabl, yn ymdopi â chyflwr iechyd meddwl neu’n gaeth i gyffur, mae Gofalwyr yn arbed swm syfrdanol o £132 biliwn i’r economi bob blwyddyn – mae hyn bron yn gost ail Wasanaeth Iechyd!

I archebu lle neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Gofalwyr Ceredigion ar 01970 633564 neu ebostiwch unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.

 

17/05/2019