Mae rheoliadau’r cyfnod atal byr yn parhau mewn grym yng Nghymru tan ddydd Llun, 09 Tachwedd 2020, ac anogir pobl i ddilyn yr holl reolau’n llym y penwythnos hwn, a hynny’n rhan o’n hymgais i adennill rheolaeth o’r coronafeirws.

Daeth cyfnod atal byr pythefnos o hyd Llywodraeth Cymru i rym ar 23 Hydref 2020, a chyhoeddwyd y bydd mesurau newydd yn cymryd lle'r cyfyngiadau cyfredol hyn ar 09 Tachwedd 2020.

Bydd y mesurau hyn yn galluogi ysgolion a busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol i ailagor, a gellir darllen y canllawiau’n llawn yma.

Rhaid i bobl hefyd ddilyn y rheolau canlynol:

  • Cadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser, gan gynnwys yn yr awyr agored.
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach na dan do.
  • Dylai pobl ond gwrdd â’u ‘swigen’ yn eu cartrefi eu hunain, a dim ond dwy aelwyd all greu ‘swigen’.
  • Gwisgo masg mewn lleoliadau cyhoeddus dan do.
  • Osgoi gwneud teithiau nad ydynt yn hanfodol gymaint â phosibl.
  • Gall hyd at 15 o bobl gwrdd dan do ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu, a gall hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu.

Yng Ngheredigion, rydym yn parhau i weld nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cynyddu, felly mae’n bwysig fod ein gwasanaethau yn ailagor yn raddol er mwyn rheoli unrhyw ledaenu pellach. O 9 Tachwedd 2020 ymlaen, bydd ysgolion uwchradd yn ailagor i bobl disgybl yng Ngheredigion, bydd y gwasanaeth cofrestru yn parhau trwy apwyntiad yn unig, a bydd Safleoedd Gwastraff Cartref yn ailagor yn y sir. Yn ogystal â hyn, o 11 Tachwedd 2020 ymlaen, bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn ailddechrau yn llyfrgelloedd Aberystwyth, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, a bydd y gwasanaeth llyfrgell deithiol yn ailddechrau ar gyfer defnyddwyr cofrestredig. Bydd holl Ganolfannau Hamdden a Phyllau Nofio yr Awdurdod Lleol yn parhau ynghau am y tro, gyda’r penderfyniad yn cael ei adolygu ym mis Ionawr 2021, ac mae ymweliadau a Chartrefi Gofal yn parhau i fod wedi cael eu hatal.

Mae’r holl wasanaethau hyn wedi cael eu hamlinellu yng Nghynllun y Ffordd Ymlaen i Geredigion, ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd yno.

Trwy ddilyn y rheolau hyn, rydym yn anelu at gadw lefel y coronafeirws mor isel â phosibl yma yng Ngheredigion er mwyn galluogi pawb i fwynhau elfen o normalrwydd dros y Nadolig. Mae hyn hefyd yn llunio rhan o Strategaeth y Gaeaf i amddiffyn iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19. 

Mae angen i bob un ohonom gymryd camau gofalus dros yr wythnosau nesaf er mwyn diogelu ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

06/11/2020