Gydag achosion yng Ngheredigion ar gynnydd, gadewch i ni feddwl am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau nad yw niferoedd y coronafirws yn codi ymhellach. Nid y firws sy'n symud, ond pobl sy'n symud y firws.

Mae Ceredigion wedi ailagor yn araf ac yn ofalus ar ôl y cyfnod clo byr. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn parchu'r rheolau newydd, yn cyfyngu ein cyswllt ag eraill, a chyn teithio i unrhyw le, gofyn a yw'r daith yn hanfodol? Os nad ydyw, arhoswch gartref.

Mae'n debyg mai'r ychydig fisoedd nesaf fydd y mwyaf heriol i ni yng Ngheredigion yn ein brwydr yn erbyn y coronafeirws. Gadewch i ni i gyd aros yn lleol a chefnogi'n lleol. Cadwch yn wyliadwrus a chofiwch y negeseuon allweddol:

  • Cadwch bellter cymdeithasol 2m oddi wrth ei gilydd pan allan;
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd;
  • Cyfyngwch ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithiwch o adref lle bynnag y bo modd;
  • Gwisgwch fasg wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rhaid i unrhyw un sy'n datblygu unrhyw symptomau COVID-19 ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael cartref i gael ei brofi yn unig. Medrir archebu prawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Trwy wneud hyn, byddwn yn amddiffyn iechyd a lles ein rhai mwyaf agored i niwed. Byddwn yn amddiffyn y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn galluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

16/11/2020