Hoffai gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion godi ymwybyddiaeth ymhlith manwerthwyr bwyd lleol ynghylch y ffaith bod amryw o gynhyrchion Kinder wedi cael eu galw yn ôl yn ddiweddar.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyfarwyddo bod angen i bob manwerthwr dynnu cynhyrchion Kinder sydd wedi cael eu cysylltu ag achosion o salmonela oddi ar eu silffoedd. Credir bod y cynhyrchion wedi achosi i nifer sylweddol o blant fynd yn ddifrifol sâl, ac mae sawl achos wedi cael eu derbyn i’r ysbyty.

Gofynnwn fod yr holl fusnesau sy’n gwerthu unrhyw o’r cynhyrchion Kinder isod ar hyn bryd yn rhoi’r gorau i werthu’r cynhyrchion ar unwaith oherwydd presenoldeb posibl Salmonela.

• Kinder Surprise 20g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 4 Ionawr 2023
• Pecyn Kinder Surprise 20g x 3 - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 4 Ionawr 2023
• Kinder Surprise 100g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
• Kinder Mini eggs 75g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
• Kinder Egg Hunt Kit 150g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
• Kinder Schokobons 70g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 4 Ionawr 2023
• Kinder Schokobons 200g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 4 Ionawr 2023
• Kinder Schokobons 320g - Dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at ac yn cynnwys 4 Ionawr 2023

Mae manwerthwyr sydd wedi gwerthu unrhyw un o’r cynhyrchion Kinder uchod yn flaenorol hefyd yn cael eu hatgoffa o’r angen i arddangos Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl yn y man gwerthu. Cynhyrchwyd yr hysbysiad hwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a gellir cael mynediad ato drwy ddefnyddio’r ddolen hon: https://s3-eu-west-1.amazonaws.com/fsa-alerts-files/production/FSA-PRIN-25-2022-update-2/Customer-notice-Ferrero-recalls-Kinder-products-due-to-salmonella-3.pdf

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: https://www.food.gov.uk/cy

03/05/2022