Ar 14 a 28 Mehefin, bydd Amgueddfa Ceredigion yn dangos tair ffilm sy’n rhoi sylw i anifail mwyaf eiconig Cymru, sef y ddafad. Dangosir y ffilmiau yma i gyd-fynd gydag arddangosfa Gelf bresennol yr Amgueddfa, sy’n dwyn y teitl hollol syml ‘Defaid’. Mae’r triawd hwn o ffilmiau yn archwilio cymhlethdodau ein perthynas â’r creaduriaid gwlanog yma ac yn craffu ar y cymunedau a’r bywyd yr ydym wedi eu creu o’u hamgylch.

Mae’r arddangosfa ar agor yn ddyddiol tan 29 Mehefin ac yn edrych ar hanes, treftadaeth a diwylliant cymunedau ffermio defaid Cymru, gan gynnig cyfle cyffrous i weld artistiaid o Gymru yn arddangos eu gwaith ochr yn ochr â gweithiau Celf o arwyddocâd rhyngwladol yn ogystal â chasgliad Ceredigion ei hun.

Dywedodd Curadur Amgueddfa Ceredigion Carrie Canham, “Mae’r arddangosfa hon a’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hi yn rhoi cyfle i ni roi sylw amlwg i drafod ein perthynas gydag ucheldiroedd Cymru, gan roi sylw i’r ffordd mae tirwedd ffermio draddodiadol wedi newid a sut y gallai edrych tua’r dyfodol.”

Mae’r gyfres ffilmiau yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru, gan daflu goleuni ar gymunedau ffermio eraill ledled y byd, gan ddechrau ar 14 Mehefin gyda ffilm o Wlad yr Iâ, Rams (2015), sy’n trafod dau frawd yn brwydro’r elfennau a’r awdurdodau, yna am 7yh ar 28 Mehefin fe ddangosir rhaglen ddogfen ryngwladol, She Shears (2018), sy’n ymwneud â byd cystadlu chwyrn cneifio defaid. Daw’r triawd i ben gyda’r ffilm arswyd, Black Sheep (2006) o Seland Newydd sy’n trafod defaid/sombis a chaiff y ffilm hon ei dangos yn hwyr y nos, am 9yh ar 28 Mehefin.

Ariannwyd yr arddangosfa a’r digwyddiadau cysylltiedig gan Raglen Fenthyg Weston ar y cyd â’r Gronfa Gelf; crëwyd y rhaglen gan Sefydliad Garfield Weston a’r Gronfa Gelf. Rhaglen Fenthyg Weston yw’r rhaglen gyntaf erioed ar draws y Deyrnas Unedig i alluogi amgueddfeydd llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyg gweithiau celf o gasgliadau cenedlaethol. Cafwyd cyllid pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, drwy Raglen y Cychwr (Le Passeur): Rhannu Gweithiau Celf a gefnogir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad John Ellerman a’r Gronfa Gelf.


Dywedodd Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Bydd yr arian ar gyfer Defaid o Raglen Fenthyg Weston ynghyd â’r Gronfa Gelf a chronfeydd eraill yn gadael gwaddol parhaol a fydd yn para ymhell y tu hwnt i’r arddangosfa. Bydd y ffordd y mae’r arian wedi cefnogi cynlluniau uwchraddio angenrheidiol a rhaglenni cysylltiedig eraill yn galluogi’r amgueddfa i fenthyca arteffactau a thrysorau pwysig eraill i’w harddangos yn y dyfodol.”


Ymwelwch â www.ceredigionmuseum.wales/hafan/ am ragor o wybodaeth.

15/05/2019