Cynhaliwyd gwrandawiad dedfrydu ar 10 Ebrill yn Llys Ynadon Aberystwyth wedi i Mrs Margaret Cooper, 80 oed a Mr Norman Richard Cooper, 55 oed o fferm Gilfachwith, Bangor Teifi, bledio’n euog i farwolaeth ac esgeulustod difrifol 84 o wartheg.

Mae'r erlyniad yn dilyn ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Ceredigion, a ymwelodd â’r fferm ym mis Mai 2018 ynghyd â swyddogion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Daeth y Swyddogion ar draws golygfeydd o ddinistr llwyr gyda chyrff gwartheg meirw yn pydru mewn siediau da byw. Ochr yn ochr â’r carcasau hyn, roedd gwartheg byw a gwelwyd eu bod yn dioddef o esgeulustod diangen. Cadarnhaodd y milfeddyg fod y gwartheg yn dioddef yn ddiangen, a gwnaethpwyd y penderfyniad i gymryd gweddill y gwartheg byw i feddiant y Cyngor er mwyn atal unrhyw ddioddefaint pellach. Bu’n rhaid rhoi rhai anifeiliaid i’w lladd ar ôl eu harchwilio, oherwydd y cyflyrau iechyd difrifol yr oeddent wedi'u datblygu o ganlyniad i'w dioddefaint.

Dywedodd Alun Willaims, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, "Nid yw'r Swyddogion Iechyd Anifeiliaid a oedd yn ymwneud â'r achos hwn erioed wedi gweld y fath amodau gwarthus ar unrhyw fferm drwy gydol eu gyrfa. Mae’r rhan fwyaf o'r staff o gefndir amaethyddol, ond fe wynebon nhw amgylchiadau erchyll wrth ymchwilio ac wrth fynd i gasglu’r anifeiliaid byw a'r carcasau. Nid yw'r achos hwn yn adlewyrchu'r safonau gofal uchel a welir fel rheol wrth drin anifeiliaid ar y ddwy fil a hanner o ffermydd sydd yng Ngheredigion. Serch hynny, rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus, gan mai dyma'r ail achos o'r math hwn a ddygwyd gerbron y llys mewn mater o fisoedd, gwaetha'r modd. Hoffwn fynegi fy niolch anfesuradwy i staff y cyngor a'n cyfreithiwr wrth erlyn yr achos hwn. Mae fy niolch hefyd i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Arolygiaeth Wledig Cymru a'r Heddlu am weithio'n agos gyda'r Cyngor i ddelio â'r achos gwaethaf yng Nghymru o esgeuluso anifeiliaid fferm yn y cyfnod diweddar.”

Wrth ddedfrydu, dywedodd Cadeirydd yr Ynadon, "Roedd hwn yn achos erchyll, fel y gwyddoch. Credwn fod eich gweithredoedd wedi arwain at esgeulustod cyson. Cafodd yr anifeiliaid eu hamddifadu o anghenion gofal sylfaenol, bwyd, dŵr a gwellt gyda’r canlyniad iddynt farw ynghlwm wrth eu stâl. Mae tystiolaeth glir eu bod wedi dioddef dros gyfnod hir. Hefyd, roedd carcasau’r rhai a fu farw yn gymysg gyda’r da byw, roedd yn erchyll. "

Dedfrydwyd Mrs Cooper a Mr Cooper i chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, a'u gwahardd rhag cadw unrhyw anifeiliaid am ddeng mlynedd, gyda'r unig eithriad yw eu bod yn cael cadw eu pedwar ci oedrannus am weddill bywyd y cŵn. Gorchmynnwyd Mr Cooper hefyd i wneud 150 awr o waith di-dâl. Fe'u gorchmynnwyd i dalu costau o £2,500 yr un i’r Cyngor, ynghyd â gordal dioddefwr o £115 yr un.

 

15/04/2019