Cynhaliwyd gwrandawiad dedfrydu ar 14 Chwefror yn llys ynadon Aberystwyth i ystyried pledion euog Mr David Davies, a Mr Evan Meirion Davies o Fferm Penffynnon, Bangor Teifi.

Roedd y ddau frawd wedi pledio'n euog i 13 cyhuddiad a ddygwyd gan Gyngor Sir Ceredigion o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.

Mae'r erlyniad yn dilyn ymweliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid y cyngor a milfeddyg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar y fferm ym mis Ebrill 2018. Gwelodd swyddogion 58 o garcasau gwartheg mewn cyflyrau amrywiol o bydru yn y siediau gwartheg a'r caeau cyfagos. Roedd y gwartheg a oedd yn weddill o dan amodau ofnadwy, heb fwyd, dŵr na man gorwedd sych.

Cadarnhaodd y milfeddyg bod y gwartheg yn cael eu hachosi dioddefaint diangen, a daeth hefyd i'r farn bod y gwartheg marw wedi dioddef o'r amodau erchyll a ganfuwyd yn y siediau, a'u bod wedi marw o esgeulustod. Roedd yn rhaid i'r milfeddyg ddifa’r ddwy fuwch i atal dioddefaint pellach yn ystod ymweliadau â'r safle. Hwn oedd yr achos gwaethaf o esgeulustod lles anifeiliaid a welwyd hyd yma gan dîm iechyd anifeiliaid Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Roedd hwn yn achos gwirioneddol frawychus o esgeulustod a achosodd ddioddefaint ofnadwy i nifer o anifeiliaid. Fe wnewn weithredu yn gyflym ac yn bendant pryd bynnag y bydd angen i ni ddiogelu lles anifeiliaid.”

"Roedd hwn yn achos eithafol, ac nid yw'n adlewyrchu o gwbl ar ymroddiad y mwyafrif llethol o ffermwyr Ceredigion sy’n cynnal y safonau uchaf o ofal ar gyfer eu hanifeiliaid."

Wrth ddedfrydu, fe wnaeth yr Ynadon gydnabod y dystiolaeth o ddioddefaint erchyll, gofal annigonol a hwsmonaeth wael o anifeiliaid a arddangosir gan y ddau ddiffynnydd i'r anifeiliaid. Cawsant eu dedfrydu i 16 wythnos o garchar wedi'u hatal am 12 mis, a'u hanghymhwyso rhag cadw unrhyw anifeiliaid o unrhyw ddisgrifiad am bum mlynedd. Caniatawyd 28 diwrnod i'r brodyr wneud y trefniadau angenrheidiol. Fe'u gorchmynnwyd i dalu costau i'r cyngor o £1,500 yr un.

 

15/02/2019