Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23 a 30 Mehefin, sy’n wythnos sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer dathlu gwaith ieuenctid ar draws Cymru gyfan.

Bydd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion arddangosfa yn swyddfa’r Cyngor yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, a hefyd digwyddiadau dathlu ar draws Clybiau Ieuenctid y Gwasanaeth yn ystod yr wythnos. Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn anelu codi proffil o waith ieuenctid yng Ngheredigion trwy dynnu “Hunlun Gwaith Ieuenctid” gyda Swyddogion Uwch y Cyngor, Cynghorwyr ac o fewn Ysgolion Uwchradd, Canolfannau Hyfforddiant a Cholegau’r Sir. Bydd blogiau a chlipiau fideo dyddiol yn cael eu rhannu ar wefan a thudalennau cymdeithasol y Gwasanaeth Ieuenctid, yn gofyn i bobl ifanc “Beth mae Gwaith Ieuenctid yn feddwl i chi?”.

Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd i arddangos gwaith y bobl ifanc o Geredigion ynghyd â chynghorau eraill ar draws Cymru.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i Wasanaethau Ieuenctid ar draws Cymru i ddathlu gwaith ieuenctid. Yma yng Ngheredigion, rydyn ni'n awyddus i hyrwyddo pwysigrwydd a gwerth y gwaith ieuenctid o fewn y sir. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 o oed mewn amryw o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurffiol, trwy ddarpariaeth sydd wedi ei dargedu a darpariaeth agored. Mae gwaith ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu yn holistaidd, trwy weithio gyda nhw i hwyluso datblygiad addysg, personol a chymdeithasol. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu llais, dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac eu ymestyn i'w potensial llawn.”

I ddilyn hynt a helynt Wythnos Gwaith Ieuenctid, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar beth y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gynnig, dilynwch ar Facebook a Twitter @GICeredigionYS.

24/05/2018