Yn rhan o ddathliadau’r Urdd yn 100 oed heddiw, bydd adeiladau Cyngor Sir Ceredigion yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd gyda’r hwyr i nodi’r achlysur.

Bydd Canolfan Alun R Edwards, Canolfan Rheidol a’r Bandstand yn Aberystwyth yn cael eu goleuo i ddathlu pen-blwydd y mudiad ieuenctid hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hi’n ddiwrnod mawr i’r Urdd heddiw wrth i'r mudiad ddechrau ar flwyddyn o ddathliadau pen-blwydd yn 100 oed. Hoffem longyfarch y mudiad ar gan mlynedd o wasanaeth arbennig i’r Gymraeg, ac i ieuenctid yng Nghymru. Mae cymaint o bobl wedi elwa o fod yn aelodau o’r Urdd, mae’n fodd i gyfarfod â phobl newydd, annog hyder wrth gystadlu, cael hamddena mewn gwersylloedd ar draws Cymru, yn ogystal â nifer o gyfraniadau amhrisiadwy eraill. Diolch yn fawr i chi a phen-blwydd hapus.”

Ers 1922, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru i fwynhau profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gan Geredigion berthynas gref â’r Urdd gyda’r adrannau, y clybiau a’r ysgolion yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc. Dyma hefyd gartref un o wersylloedd yr Urdd, sef Gwersyll yr Urdd Llangrannog.

Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i'r Urdd ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi’r mudiad wrth gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc gystadlu, mwynhau a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

25/01/2022