Cafwyd cyfle yn ddiweddar i ddathlu gyda dau o fyfyrwyr Academi Bro Ceredigion wrth iddynt gwblhau eu prosiectau terfynol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu Cennydd Jones o Bontsian a Llywelyn Jones o Felinfach yn cymryd rhan ym mhrosiect yr Academi Bro a sefydlwyd dwy flynedd yn ôl gan Cered, Menter Iaith Ceredigion ar y cyd â Theatr Felinfach gyda chymorth Cynnal y Cardi.

Bwriad yr Academi oedd meithrin sgiliau arweinyddiaeth ymysg pobl ifanc i’w galluogi i gymryd rhan fwy blaenllaw ym mywyd eu cymunedau a thrwy hynny arwain at ddatblygu cymunedau dwyieithog cynaliadwy. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 10 o fyfyrwyr wedi cymryd mantais ar y cyfle gan fanteisio ar ddosbarthiadau meistr, cynllun mentora a gweithdai amrywiol.

Yn ddiweddglo i’w prosiectau gofynnwyd i Cennydd a Llywelyn gyflwyno ffrwyth eu gwaith i aelodau Pwyllgor Dyfodol Dwyieithog Cyngor Sir Ceredigion gan gynnwys Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a chynrychiolwyr o wahanol fudiadau ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae'n galonogol i weld y myfyrwyr hyn yn cymryd rhan yn y rhaglen Academi Bro i ddatblygu eu hunain a'u cymunedau. Rydym yn falch iawn o gael talent o'r fath yn y sir ac yn dymuno’r gorau ar gyfer y dyfodol i’r holl fyfyrwyr.”

Roedd prosiect terfynol Cennydd Jones, sydd ar hyn o bryd yn Ddarlithydd Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr, yn canolbwyntio ar ddyfodol Neuadd Bentref Pontsian ac wedi ei seilio ar waith ymchwil yn archwilio cefndir ac opsiynau posib ar gyfer y Neuadd. Roedd prosiect Llywelyn Jones, cerddor llaw rydd, yn seiliedig ar gyngerdd mawreddog gydag artistiaid adnabyddus yn perfformio gwaith Robat Arwyn. Gobaith y ddau yw y bydd y sgiliau y maent wedi eu datblygu fel aelodau o’r Academi yn eu galluogi i fynd ymlaen i wneud cyfraniad hir dymor o fewn eu cymunedau lleol.

Llongyfarchwyd y ddau ar brosiectau diddorol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau cefn gwlad y sir.

Mae’r prosiect Academi Bro Ceredigion wedi cael cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion) a ariennir drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

20/09/2018