Ar hyn o bryd mae gan Amgueddfa Ceredigion dros 65,000 o arteffactau hanesyddol sy'n adrodd stori Ceredigion o'r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. I letya'r rhain, mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi trwy'r cynllun LEADER wedi cefnogi astudiaeth ddichonoldeb i archwilio'r opsiynau o greu cyfleuster storio ecogyfeillgar o'r radd flaenaf i'r holl gasgliadau sydd wedi'u storio yn yr amgueddfa.

Astudiaeth ddichonoldeb Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion, Casglu ar gyfer Cenedl, yw ail gam flaengynllun tri cham ‘Trawsnewidiadau’. Bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd ac yn cynyddu mynediad y cyhoedd i gasgliadau sydd o bwysigrwydd rhanbarthol.

O ganlyniad i'r astudiaeth ddichonoldeb, mae'r amgueddfa eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn Rownd 1 Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru i greu Stiwdio Ddysgu a fydd yn cefnogi'r prosiect Casglu ar gyfer Cenedl ehangach. Bydd y Stiwdio Ddysgu yn darparu cyfleusterau i ddisgyblion ysgol a choleg, ynghyd ag ystod o grwpiau cymunedol a diddordebau arbennig. Byddant yn medru dysgu am dreftadaeth a diwylliant Ceredigion, gan ddefnyddio adnoddau digidol a chasgliad trin yr amgueddfa.

O ganlyniad i'r astudiaeth ddichonoldeb, mae'r Amgueddfa wedi ceisio cyllid pellach i gyflawni'r prosiect Casglu ar gyfer Cenedl ar sbectrwm ehangach.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae gan Geredigion hanes diddorol a phwysig y dylid ei ddathlu. Trwy archwilio'r posibiliadau trwy'r astudiaeth ddichonoldeb hon bydd Ceredigion yn ennill adnodd newydd i drigolion ac ymwelwyr ddysgu, mwynhau ac ymgysylltu â threftadaeth. Mae'n wych gweld cymuned yn dod at ei gilydd i sicrhau ei hanes, a thrwy hynny gefnogi cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol lleol.”

Mae Cynnal y Cardi eisiau clywed gennych ynglŷn ag unrhyw syniadau newydd ac arloesol a allai fod gennych. I drafod y syniadau hyn ac i gael gwybodaeth ynghylch cymhwysedd cefnogaeth, ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 570881 neu e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk. Croesawir argymelliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Gweinyddir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig, gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe'i cefnogir drwy raglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan a Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig trwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Gwledig Datblygu a Llywodraeth Cymru.

 

15/05/2020