Ar ddiwedd Wythnos Addysg Oedolion, cynhaliodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Ceredigion eu Gwobrau Ysbrydoli lle cyflwynwyd wyth gwobr. Cydnabuwyd cyflawniadau yr oedolion sy'n dysgu, o bob rhan o Geredigion, sydd wedi goresgyn heriau a rhwystrau.

Cafodd Haf Shannon Burrill, Max Jenkins, Morgan Owen, Jennifer Lewis, Siani McDowell, Jessica Harvey, Najlaa Jamal, Bashar Mardenli, Latifa Al Najarr, Rakan Al Najarr ac Ahmad Sultan wobrau dysgu arbennig fel rhan o seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2018 yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Yn ogystal â gwobrau'r dysgwr, gwobrwywyd Alison Bryan o Dysgu Bro gyda Gwobr Tiwtor y Flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddysgu Cymunedol, “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Ceredigion yn dathlu cyflawniadau dysgwyr oedolion eithriadol yng Ngheredigion sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a chymhelliant eithriadol i ddysgu, yn aml mewn amgylchiadau anodd. Rydym yn falch iawn ohonynt oll ac yn edrych ymlaen at glywed am eu datblygiadau yn y dyfodol.”

Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhedeg rhwng 25ain Mehefin a 1af Gorffennaf. Mae'n dathlu dysgu gydol oes, boed yn seiliedig ar waith, fel rhan o gwrs addysg gymunedol, yn y coleg, prifysgol neu ar-lein. Nawr wedi iddo gyrraedd 25 mlynedd, mae'r Wythnos yn anelu at hyrwyddo'r ystod o gyrsiau sydd ar gael i oedolion sy'n dysgu, o ieithoedd i gyfrifiaduron a gofal plant i gyllido.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Roedd hi'n bleser mynychu noson Gwobrau Ysbrydoli Dysgwyr Ceredigion yn Llambed a gweld yr oedolion hyn yn derbyn gwahanol wobrau ac achrediadau. Mae darpariaeth Partneriaeth Dysgu Oedolion yn hynod werthfawr i oedolion yng Ngheredigion gan ei bod yn cynnig ystod eang o gyfleoedd a hyfforddiant i ddinasyddion y sir. Mae nifer y cyflawniadau eleni yn adlewyrchiad o ymrwymiad a brwdfrydedd ein dysgwyr ac roedd yn bleser croesawu cymaint ohonynt a'u teuluoedd i ddathlu gyda ni eleni. Llongyfarchiadau i chi gyd!”

Yr enillwyr oedd:

  • Haf Shannon Burrill - Gwobr Oedolion Ifanc. Mae Haf wedi dangos ymrwymiad i'w dysgu ac yn ei blwyddyn olaf o'i phrentisiaeth Plymio Lefel 2 yn Hyfforddiant Ceredigion
  • Najlaa Jamal, Bashar Mardenli, Latifa Al Najarr, Rakan Al Najarr, Ahmad Sultan - Gorffennol Gwahanol: Gwobr Rhannu’r Dyfodol. Mae'r grŵp hwn o ddysgwyr wedi dangos dilyniant mawr wrth ddatblygu eu medrau llythrennedd digidol a sgiliau iaith
  • Max Jenkins - Heneiddio'n Dda. Mae Max wedi bod yn mynychu dosbarthiadau cyfrifiadurol yn Dysgu Bro Ceredigion ers nifer o flynyddoedd ac mae ganddo ddiddordeb bob amser i ddysgu mwy
  • Jennifer Lewis - Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant. Yn ystod ei hamser yn dysgu Iaith Arwyddo Brydeinig gyda Dysgu Bro Ceredigion, roedd ganddi hefyd gyfrifoldebau gofalu. Er bod ganddi apwyntiadau ysbyty ac ymrwymiadau gofalu adref, fe wnaeth ymrwymo hefyd i ddysgu. Dywedodd bod gwneud hyn wedi ei helpu ac roedd hi’n cydnabod gwerth a budd dysgu ar ei gyfer ei hun
  • Siani McDowell - Gwobr Iechyd a Lles. Mae Siani wedi gwneud pob ymdrech i gael mynediad at yr holl gefnogaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau llwyddiant yng Ngholeg Ceredigion eleni, ac mae wedi talu ar ei ganfed
  • Jessica Harvey - Dysgwr Cymraeg. Mae Jessica wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wella ei sgiliau Cymraeg trwy sgwrsio'n fwy trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod gweithgareddau dosbarth yng Ngholeg Ceredigion a tra ei bod ar leoliad. Mae hi hefyd wedi mynd ymlaen i gystadleuaeth Medal y Dysgwyr gyda'r Urdd, gan gyrraedd y 4 ymgeisydd terfynol
  • Morgan Owen - gwobr ‘Mewn Gwaith’. Astudiodd Morgan ar y Rhaglen Ymgysylltu Hyfforddeion yn Hyfforddiant Ceredigion Training ac mae wedi mynd ymlaen i weithio ar leoliad mewn siop chwaraeon Modur lleol
  • Alison Bryan - Tiwtor y flwyddyn. Disgrifiwyd Alison yn ysbrydoledig, yn frwdfrydig, yn gefnogol, yn ofalgar, yn galonogol ac yn hwyl. Mae hi'n defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu ymgysylltu a deinamig yn Dysgu Bro Ceredigion i sicrhau bod anghenion dysgu pawb yn cael eu diwallu. Mae'n rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ei hamser ei hun, gan drefnu cymdeithasau â dysgwyr a defnyddwyr Iaith Arwyddo Brydeinig eraill. Mae hi'n teithio pellteroedd mawr i gyflwyno dosbarthiadau Iaith Arwyddo Brydeinig ar draws sawl Sir. Mae hi'n ymroddedig ac yn angerddol wrth iddi ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar bobl fyddar

Am ragor o wybodaeth am Ddysgu Cymunedol, cysylltwch â Dysgu Bro ar 01970 633540 neu admin@dysgubro.org.uk.

Llun: Enillwyr gwobrau Ysbrydoli Ceredigion! gyda chynrychiolwyr o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol.

17/07/2018