Cymeradwywyd y cynnig o ddatblygu Canolfan Lles yn Llanbedr Pont Steffan yng nghyfarfod o’r Cabinet ar 01 Rhagfyr 2020.

Fel rhan o'i ymrwymiad i ffurfio Rhaglen Lles Gydol Oed mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu sefydlu Hybiau Lles yng Ngogledd, Canol a De Ceredigion yn ogystal â darpariaeth ’dros-dro’ mewn lleoliadau eraill yn y Sir. Bydd pob Hwb Lles (yr ardal) yn cynnal ‘Canolfan Lles’ - cyfleuster sy’n gwella ei gynnig craidd o ran darpariaeth Hamdden gydag ardaloedd ar gyfer cyfarfod, ymgynghori a thriniaeth er mwyn cyfrannu at welliant llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae'n amlwg bod anghenion trigolion o ran cymorth yn newid. Mi fydd y Ganolfan Lles yn medru cynnig cymorth a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i’r anghenion hyn a chynnig cefnogaeth amrywiol i ystod eang o bobl o bob oedran. Mae’n braf gweld y cam cyntaf positif hwn i drigolion canolbarth Ceredigion.”

Bydd cysyniad datblygiad y Ganolfan Lles yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Rheoli Prosiectau Corfforaethol a'r Grŵp Datblygu i sicrhau ei fod yn dilyn y protocolau y cytunwyd arnynt ar gyfer prosiect o'r statws hwn. Bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw datblygu Canolfannau Lles pellach yng Ngogledd a De'r Sir. Bydd y dysgu trwy greu y Ganolfan gyntaf yn Llanbedr Pont Steffan yn dylanwadu ar y Canolfannau eraill ac yn rhoi'r rhaglen ar waith yn y dyfodol.

Datblygir yr Hwb Lles yn Llanbedr Pont Steffan gyda chymorth grant gan Llywodraeth Cymru.

Wrth gymeradwyo'r cais, mae hyn yn caniatáu i'r Gwasanaethau Lles fwrw ymlaen â'r gwaith prosiect ar ddatblygu'r Ganolfan Lles yn Llanbedr Pont Steffan.

01/12/2020