Yn sgil y cynnydd mewn ffoaduriaid a oedd yn ffoi rhag rhyfel yn Wcráin ar ddechrau 2022, sefydlwyd y Ganolfan Groeso gyntaf o’i math yn gyflym yng Ngheredigion.

Dewiswyd Gwersyll Urdd Gobaith Cymru yn Llangrannog fel lleoliad gan Lywodraeth Cymru ac agorwyd y ganolfan ar 28 Mawrth 2022.

Yn ystod y pedwar mis dilynol, hyd at 31 Awst 2022 pan gaewyd y ganolfan yn swyddogol, cefnogwyd a rhoddwyd gwasanaethau cofleidiol unigryw a phwrpasol i 72 o deuluoedd o Wcráin yn y sir.

Yn fuan, sefydlwyd grŵp cyflawni aml-asiantaeth, a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Urdd Gobaith Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cytûn, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Dyfed Powys, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac eraill.

Gwasanaethau cofleidiol

Addasodd holl wasanaethau’r Cyngor yn gyflym i’r angen newydd am wasanaethau a oedd yn amrywio o gymorth TG (i wella signal ffôn), i gymorth ariannol a chyfreithiol, hyd at weinyddu busnes. Ymgymerodd y tîm Partneriaethau a Pherfformiad ag ochr gofrestru a rheoli data’r prosiect, a rheolodd hefyd dîm o staff i sicrhau bod pob teulu’n derbyn cymorth cofleidiol o safon uchel. Rhoddodd y gwasanaeth Ysgolion addysg ar y safle i blant oedran ysgol a rhoddodd gwasanaeth Porth Cymorth Cynnar ofal plant i blant oedran cyn ysgol.

Cyflwynwyd papur yn crynhoi cyfraniad Cyngor Sir Ceredigion i’r Ganolfan Groeso i Aelodau’r Cabinet ar 04 Hydref 2022, yn ogystal â llythyr o werthfawrogiad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS yn ei lythyr: “Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffem ddiolch o galon am y cymorth anhygoel a’r gwaith eithriadol o galed a ddarparwyd gan y cyngor yn ystod y misoedd diwethaf. Ar y cyd â phartneriaid, rydych wedi chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau y gallai Cymru wireddu ein huchelgais o fod yn Genedl Noddfa. Roedd Canolfan Groeso Llangrannog yn wir enghraifft o’r croeso cynnes Cymreig hynod yr ydym wedi llwyddo i’w gynnig i’n cyfeillion newydd o Wcráin. Mae eich ymdrechion wedi dangos y dull ‘Tîm Cymru’ gwirioneddol sydd bellach yn nodweddiadol yn ein hymdrech ar y cyd i gefnogi pobl sy’n ceisio noddfa.”

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Y ffordd integredig a di-dor y bu asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd oedd y prif ffactor yn llwyddiant y prosiect hwn, a bydd 72 o deuluoedd o Wcráin yn ddiolchgar am byth am y gefnogaeth a’r tosturi a estynnwyd iddynt yng Ngheredigion. Roedd y rhan fwyaf yn poeni am eu teuluoedd yn Wcráin, eu dyfodol, sut y bydden nhw’n gallu dod o hyd i swydd yn y wlad hon a sicrhau llety parhaol. Roedden nhw hefyd yn poeni’n fawr am gael eu plant i mewn i ysgol. Cawsom adborth cyson bod staff yr Urdd a’r Cyngor yn y Ganolfan Groeso’n barod eu cymwynas, yn gyfeillgar, ac yno bob amser i helpu. Roedden nhw’n gwerthfawrogi ansawdd y llety, yn teimlo’n ddiogel, ac roedd yr help i gael dogfennau allweddol y DU yn amhrisiadwy iddynt. Dywedodd rhai eu bod yn eu dagrau pan gyrhaeddon nhw o Wcráin, a’u bod yn eu dagrau wrth adael Llangrannog, wedi iddyn nhw gael gofal a chefnogaeth mor ardderchog.”

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd raglen sgrinio iechyd ar gyfer yr holl ffoaduriaid a threfnodd eu bod yn cael eu cofrestru â meddygon teulu. Aethant ati hefyd i ddarparu sesiynau cyngor ar iechyd galw heibio gyda chyfieithydd.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi bod yn gofalu am gannoedd o bobl yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog, menywod a phlant yn bennaf, sydd wedi gorfod gadael Wcráin a ddifrodwyd gan ryfel i ddiogelwch. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant, ar ran y Bwrdd, am ofal arbenigol ac ymroddiad ein holl staff a aeth ati i sicrhau fod eu hanghenion corfforol ac emosiynol yn cael eu diwallu gyda charedigrwydd, dealltwriaeth ac arbenigedd. Roedd hwn yn enghraifft o waith partner rhagorol, sy’n adlewyrchu’r holl egwyddorion sy’n annwyl yn rhan o’n Cenedl Noddfa.”

Ychwanegodd Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog: “Mae Cymorth dyngarol wedi bod wrth wraidd gwaith yr Urdd ers ei sefydlu yn 1922. Ni fyddai’r Ganolfan Groeso wedi bod yn bosibl heb gymorth aelodau’r urdd a’r ysgolion a’n galluogodd i agor ein drysau i deuluoedd o Wcráin. Roedd y gwaith partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn golygu bod modd i'r tîm aml-asiantaeth gynnig y cymorth gorau ar gyfer y teuluoedd pan oedd arnynt ei angen.”

Mae’r papur Cabinet llawn ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

04/10/2022