Anogir trigolion Ceredigion i beidio â cholli eu pleidlais drwy sicrhau eu bod yn cofrestru i bleidleisio cyn etholiadau’r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a gynhelir ym mis Mai eleni.

Gall pawb sy'n 16 oed neu'n hŷn, gan gynnwys dinasyddion tramor cymwys, gofrestru i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd.

Mae rheol wahanol ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rhaid i chi fod yn 18 oed cyn y gallwch bleidleisio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru os ydych yn 16 neu'n 17 oed fel y gallwch ddefnyddio'ch pleidlais unwaith y byddwch wedi cyrraedd 18 oed.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiadau mis Mai 2021 yw hanner nos ddydd Llun 19 Ebrill. Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy’r post yw 5pm ar 20 Ebrill, a’r dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 27 Ebrill. Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio 

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Mae trigolion yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer pleidleisio drwy'r post fel y gallant fwrw eu pleidlais o’u cartref cyn y diwrnod pleidleisio. Fodd bynnag, os yw trigolion yn dymuno pleidleisio'n bersonol, bydd mesurau'n cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau y gallant bleidleisio mewn amgylchedd diogel."

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gydag awdurdodau lleol cyfagos a'r Comisiwn Etholiadol i sicrhau y gall pawb bleidleisio'n ddiogel yn yr etholiadau ar 06 Mai yn unol â chanllawiau diogelwch Covid-19.

I'r rhai sy'n dymuno pleidleisio’n bersonol ar 06 Mai, bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7yb a 10yh.

Mae rhagor o wybodaeth am yr etholiadau ar gael ar www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/. Mae hefyd yn werth cadw llygad ar dudalennau’r Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol, sef @CeredigionCC ar Facebook a Twitter ac @CaruCeredigion ar Instagram.

06/04/2021