Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gweithio gyda'i gilydd mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Bydd tri cyfleuster yn y sir - Canolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Penweddig yn Aberystwyth a Chanolfan Hamdden Aberteifi - yn darparu capasiti ychwanegol mewn ymateb i'r heriau digynsail y mae'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Mae safleoedd pellach ledled y sir yn parhau i gael eu trafod a darperir gwybodaeth bellach pan fydd y rhain yn cael eu cadarnhau. Mae'r gwasanaeth iechyd hefyd yn gweithio gyda'i bartneriaid prifysgol yn Aberystwyth ar gyfleoedd iddynt gefnogi'r ymdrechion.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf yn cadarnhau capasiti ychwanegol ym Mharc Y Scarlets a Chanolfan Selwyn Samuel yng Nghyrchfan Parc Cenedlaethol Llanelli a Bluestone yn Sir Benfro.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd darparu’r adnoddau ychwanegol yng Ngheredigion yn hanfodol i’n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth yr ydym ni derbyn gan Gyngor Sir Ceredigion i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

“Rydyn ni wedi dilyn y sefyllfa yn yr Eidal yn agos i ddysgu lle bo modd ac i gynorthwyo gyda’n cynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi darparu adborth bod llif cleifion yn ffactor hanfodol mewn ymateb i bwysau COVID-19.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr : “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sefydlu ein Canolfannau Hamdden ac un o'n hysgolion uwchradd fel cyfleusterau a fydd yn darparu capasiti ychwanegol wrth i ni baratoi ar gyfer effaith bosibl COVID-19. Mae hyn yn adlewyrchiad o'r bartneriaeth agos sy'n gweithio rhwng y ddau sefydliad. Rydyn ni'n diolch i'r holl staff sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i baratoi ar gyfer yr argyfwng hwn ac ymateb iddo.”

30/03/2020