A ydych chi rhwng 9 a 25 oed ac yn llawn syniadau creadigol ar sut i roi delwedd newydd i danffordd Pen-y-Bont ym Mhenparcau?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Thîm Economi ac Adfywio’r Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio cystadleuaeth dylunio, lle bydd y dyluniadau buddugol yn cael eu harddangos ar ddwy adran fawr o danffordd y bont.

Bydd y danffordd, sydd yn aml yn denu fandaliaeth, yn cael ei lenwi â murlun mawr, lliwgar a fydd yn adlewyrchu treftadaeth Penparcau ac ardaloedd cyfagos Aberystwyth, a’r hyn y mae Penparcau ac Aberystwyth yn ei olygu i bobl ifanc.

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio gydag artist poblogaidd, Lloyd y Graffiti, i greu darn o gelf deniadol. Yn ogystal â’r gystadleuaeth, bydd cyfle i bobl ifanc fod yn rhan o’r gweithdai i helpu i lunio’r darn o gelf. Croesawir pob math o ddyluniadau, a bydd panel o bobl ifanc yn dewis y dyluniadau buddugol erbyn mis Mawrth 2022.

Bydd yr enillwr neu’r enillwyr sy’n creu’r dyluniadau buddugol a ddewisir gan y panel pobl ifanc yn ennill pecyn celf a thaleb gwerth £50 a roddwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae’n hynod o bwysig bod barn pobl ifanc yn cael ei ystyried wrth i ni wneud penderfyniadau o fewn ein cymunedau, sy’n cynnig ymdeimlad o berchenogaeth a grym i bobl ifanc. Mae hyn yn gyfle cyffrous lle bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn hwyluso gweithdai i bobl ifanc o’r ysgolion cynradd ac uwchradd lleol a’r grwpiau eraill i greu murlun ar danffordd ym Mhenparcau, gyda chefnogaeth artist proffesiynol. Felly, rydym yn annog pobl ifanc o Benparcau, Aberystwyth ac ar draws Ceredigion i rannu eu dyluniadau o’r hyn yr hoffent eu gweld yn yr ardal hon.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn croesawu dyluniadau gan bobl ifanc rhwng 9 a 25 oed ar draws Ceredigion, ac yn gofyn iddynt roi sylw arbennig i liw, ffont a delweddau sy’n cynrychioli Penparcau, Aberystwyth neu ardaloedd cyfagos, sy’n bwysig i’r bobl ifanc. Dylai’r dyluniadau nodi enw, oedran a rhif cyswllt y crëwr. Mae modd cyflwyno eich dyluniadau neu syniadau i’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy e-bostio youth@ceredigion.gov.uk. Gallwch hefyd roi eich dyluniadau i’ch Gweithiwr Ieuenctid lleol ym mhob Ysgol Uwchradd ar draws y Sir. Y cyfeiriad post i anfon y dyluniadau at yw; Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Ysgol Cwrtnewydd, Cwrtnewydd, Llanybydder, Ceredigion, SA40 9YW. Dyddiad cau ar gyfer dyluniadau yw 5.00 o’r gloch ar y 4ydd o Fawrth 2022. 

Am unrhyw wybodaeth pellach yn ymwneud â’r gystadleuaeth, cysylltwch â Paul Stubbs, Gweithiwr Ieuenctid ar paul.stubbs@ceredigion.gov.uk.

21/01/2022