Cynhaliwyd y Gystadleuaeth Ddawns 5x60 blynyddol yn Theatr Felinfach ar ddydd Mercher, 18 Rhagfyr 2019.

Mae’r Gystadleuaeth Ddawns 5x60 yn cael ei gynnal i annog merched i gymryd rhan mewn ymarfer corff trwy ddawns.

Cynhaliwyd cystadlaethau unigol, pâr a grŵp, gyda cystadleuwyr o Ysgol Penglais, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Henry Richard a Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mae’r ysgolion wedi cael sesiynau dawns wythnosol yn ystod eu hamser cinio i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Roedd hyn yn gyfle iddynt ddangos beth oeddent wedi bod yn gwneud trwy gydol y tymor.

“Mae’n wych bod yn ôl yn Theatr Felinfach ar gyfer ein cystadleuaeth ddawns blynyddol. Mae’n wobr gwych i’r merched ar ôl paratoi am dymor i ddangos yr hyn maent wedi dysgu mewn lle mor broffesiynol â’r Theatr yn Felinfach” meddai Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol.

Enillwyr cystadleuaeth y pâr oedd Lisa Hughes a Soffia Davies o Ysgol Uwchradd Aberteifi. Enillydd y gystadleuaeth unigol oedd Scarlett Haigh o Ysgol Gyfun Aberaeron. Enillwyr y Grŵp oedd Ysgol Gyfun Aberaeron.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Dywedodd, “Mae gweithgaredd corfforol yn rhan bwysig o gadw’n iach. Mae’n galonogol gweld merched yn cael y cyfle i ddawnsio, cymdeithasu, cystadlu a bod yn iach ar yr un pryd. Diolch i Tîm Pobl Ifanc Egnïol a Theatr Felinfach am roi’r cyfle yma i’n pobl ifanc.”

Hoffai’r Tîm Pobl Ifanc Egnïol ddiolch i Theatr Felinfach am gefnogi’r gystadleuaeth ac am weithio mewn partneriaeth gyda ni.

 

06/01/2020