Mae’n bleser gan Dysgu Bro gyflwyno cyrsiau newydd, yn ogystal â’r ffefrynnau sy’n bodoli eisoes, i oedolion sy’n dysgu yng Ngheredigion yn ystod tymor yr Hydref.

Bydd Dysgu Bro yn cynnig ystod eang o gyrsiau megis ioga, clustogwaith sylfaenol, tecstilau (gan gynnwys batic, clymu a llifo, a phaentio ar sidan), gwneud canhwyllau, ysgrifennu creadigol, cyfryngau cymdeithasol, defnyddio iPads/llechen/ffôn symudol, cyfrifiadura i’r dibrofiad, cyfryngau creadigol, archwilio ffotograffiaeth ddigidol, dylunio gwefannau a defnyddio meddalwedd cyhoeddi.

Dywedodd un dysgwr a fynychodd ddosbarth y flwyddyn ddiwethaf, “Rwy’n teimlo’n fwy hyderus i ddefnyddio technoleg fodern, ac yn cael y cyfle i ddysgu gyda phobl eraill sydd â diddordebau tebyg.” Dywedodd dysgwr hŷn, “Mae’r cwrs wedi fy helpu i sylweddoli nad yw oedran yn atal neb. Pa bynnag sgiliau yr hoffech eu datblygu – mae’n werth gwneud, beth bynnag yw eich oedran.”

Unwaith eto, o ganlyniad i alw mawr, bydd Hyfforddiant Ceredigion a Dysgu Bro yn cynnal ystod eang o gyrsiau gyda’r hwyr am 5 wythnos, gan gynnwys cwrs gwaith gof, gwaith plymwr, gwaith saer, trin gwallt, harddwch, clustogwaith sylfaenol, ysgrifennu creadigol a ffotograffiaeth ddigidol. Bydd y cyrsiau’n galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd mewn maes o’u dewis.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion dros Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Mae’n braf gweld ystod mor eang o gyrsiau ar gael i oedolion a dinasyddion Ceredigion. Bydd y cyrsiau sydd ar gael yn darparu sgiliau newydd i’r dysgwyr a fydd o fudd iddynt yn eu bywyd dyddiol, yn hyrwyddo eu dysgu a’u datblygiad, a hefyd yn eu galluogi i fwynhau eu hunain, i gadw’n heini a chwrdd â ffrindiau newydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Dyma'r amser perffaith i ddechrau meddwl am ddatblygu sgiliau a diddordebau. Mae Dysgu Bro a Hyfforddiant Ceredigion yn darparu ystod o gyrsiau i bawb. Dysgwch rywbeth newydd y flwyddyn yma.”

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan Dysgu Bro a Hyfforddiant Ceredigion i’w gynnig dros y misoedd nesaf ac i gofrestru, ewch i’r gwefannau www.dysgubro.org.uk, www.ceredigiontraining.co.uk, eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol, ffoniwch Dysgu Bro ar 01970 633540 neu Hyfforddiant Ceredigion ar 01970 633040.

26/09/2018