Mae Gofalwyr yn darparu gofal di-dal drwy edrych ar ôl aelod o’r teulu, ffrind neu bartner sy’n sal, yn eiddil, yn anabl neu yn gweld hi’n anodd gyda iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol. Bydd tri allan o bump ohonom yn Ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau.

Mae helpu rhywun sy’n annwyl i ni gael y mwyaf allan o fywyd yn gallu bod yn wobrwyol iawn, ond gall hefyd fod yn anodd. Mae cael y cyngor priodol cyn gynted a bod modd yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Hyd yn oed os ydy person wedi bod yn Ofalwr am ddegawdau, mae hi’n hanfodol eu bod yn gwneud yn siwr eu bod yn derbyn yr holl gymorth sydd a hawl i’w gael.

Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth blynyddol i helpu Gofalwyr ddod o hyd i’w hawliau a’u helpu i gael mynediad at gefnogaeth. Eleni, trefnodd Uned Gofalwyr Ceredigion a phartneriaid ddiwrnod arbennig i Ofalwyr ar ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ar 21 Tachwedd yng Nghanolfan Hamdden Llambed. Roedd 38 gwasanaeth a sefydliad cefnogol gwahanol yno yn darparu gwyboaeth a chyngor i Ofalwyr.

Daeth dros 95 person o bob oed i ddigwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Fe wnaeth Gofalwyr, aelodau o’r teulu a ffrindiau wneud sylw ar sut oedd ‘pawb mor gyfeillgar’ gyda ‘amrywiaeth o ddarparwyr ac awyrgylch positif iawn’. Dros ginio, crosawyd pawb i ymuno gyda Goldies Cymru mewn sesiwn canu a gwenu. Fe ddaeth hyn a hwyl i’r diwrnod.

Ail-agorwyd Cronfa Gofalwyr Ceredigon hir ddisgwyledig ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Mae Gofalwyr yn medru gwneud cais i Uned Gofalwyr Ceredigion am hyd at £150 i helpu talu am rywbeth a fydd yn gwella eu iechyd a’u lles. Dywedodd Heather West, Rheolwr Uned Gofalwyr Ceredigion: “Dyma gyfle i Ofalwyr dreulio amser i’w hunain, ar rywbeth sy’n dod a hapusrwydd iddynt. Ychydig o arian sydd ar gael, felly dylai Gofalwyr wneud cais yn fuan i osgoi colli allan.”

Lansiwyd hefyd raglen newydd o gyrsiau hyfforddiant am ddim wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Gofalwyr. Gall Ofalwyr troi llaw at rywbeth newydd fel Tai Chi neu dysgu sgil i’w cefnogi yn eu rôl megis sut i ddelio gyda straen neu ymddygiad anodd yn well. Er bod archebu lle yn angenrheidiol, mae’r holl gyrsiau am ddim. Mae’n gyfle arbennig i Ofalwyr gwrdd a chael sgwrs gyda Gofalwyr eraill.

Am fwy o wybodaeth am Cronfa Gofalwyr neu cyrsiau hyfforddiant Gofalwyr, cysylltwch â Uned Gofalwyr Ceredigion ar 01970 633564 neu ebsotiwch unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.

27/11/2019