Yn dilyn cyfarfod cyntaf 2019, dymuna Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion gymeradwyo cynnig hael y Lleng Brydeinig Frenhinol o ddarparu taith wedi’i hariannu’n llawn yn ôl i’r traethau ar gyfer 300 o gyn-filwyr D-Day.

Mae 6 Mehefin 2019 yn nodi 75 mlynedd ers glaniadau D-Day.

Yn dilyn cyfarfod Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion, dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’r gymwynas hael iawn yma yn wych, mae pob un o'r rhai sy'n gymwys i deithio yn eu nawdegau a bydd y daith hon yn ffordd addas i ddweud 'diolch' am eu cyfraniad wrth i'r Cynghreiriaid ennill yr Ail Ryfel Byd.”

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol, mewn partneriaeth ag Arena Travel, wedi siartro llong, yr MV Boudicca, i ddarparu taith wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer 300 o gyn-filwyr D-Day o 02 Mehefin tan 09 Mehefin. Bydd pob cyn-filwr yn gallu dod ag un gofalwr a fydd hefyd yn cael ei ariannu'n llawn.

Mae angen i gyn-filwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y daith gwblhau'r ffurflen cymhwysedd erbyn dydd Llun 4 Chwefror 2019. Gellir dod o hyd i'r ffurflen cymhwysedd a rhagor o fanylion ar-lein: https://www.britishlegion.org.uk/community/d-day-75/

16/01/2019