Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar 13 Rhagfyr i ddathlu llwyddiant y grŵp cyntaf o hyfforddwyr sydd wedi cwblhau rhaglen arloesol newydd i hyfforddi a chynnig cymorth i Ofalwyr.

Mae’r rhaglen hyfforddi ymyrraeth gynnar, a ddatblygwyd gan Dr Dee Gray, yn mynd i’r afael ag effaith gofalu ar iechyd meddwl a lles unigolion. Mae Dr Gray yn arbenigwr mewn newid sefydliadol a datblygu cydnerthedd a lles gweithwyr rheng flaen gan gynnwys Gofalwyr anffurfiol sef y ‘trydydd gweithlu’.

Nod y rhaglen yw helpu Gofalwyr i feddwl am straen, a’u hymateb i ddigwyddiadau llawn straen, mewn modd gwahanol cyn iddynt ddod yn broblem; bydd hyn yn eu helpu i ymdopi’n well wrth ymdrin â heriau bywyd.

Bu staff Cyngor Sir Ceredigion, Gofalwyr Ifanc o Ysgol Uwchradd Penglais a staff addysgu’n dathlu eu llwyddiant o ddod yn hyfforddwyr a hwyluswyr yn y prosiect arloesol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr dros Ofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, “Mae hwn yn gam pwysig yn y gwaith o ddatblygu ffordd newydd arloesol o gefnogi gofalwyr. Mae’r rhaglen hon, y cyntaf o’i math, hefyd yn mynd i gael ei threialu mewn mannau ledled y byd, felly mae lansio rhaglen o’r fath yng Ngheredigion yn dangos sut yr ydym yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi Gofalwyr yn y sir.”

“Mae Gofalwyr yn aml yn gorfod ymdrechu i geisio cael cydbwysedd rhwng ymrwymiadau teuluol a gwaith, gan roi eu hunain dan bwysau mawr i gynnal pob ymrwymiad proffesiynol, addysgol a phersonol. Oherwydd hyn, nhw yw’r rhai sy’n teimlo’r pwysau fwyaf.”

Mae’r hyfforddiant eisoes wedi cael effaith ar yr athrawon a’r Gofalwyr Ifanc yn ysgol Penglais sy’n dod ynghyd am ‘frecwast lles’ bob wythnos a ‘chalendr lles’ sy’n cynnwys negeseuon cadarnhaol.

21/12/2018