Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, bu rhaid gwneud trefniadau gwahanol iawn i’r arfer eleni ar gyfer cynnal cwis ‘Ar Eich Marciau’.

Yn hytrach na chwrdd wyneb yn wyneb, daeth deg tîm at ei gilydd yn rhithiol ddechrau mis Tachwedd i gystadlu am darian blynyddol ‘Ar Eich Marciau’.

Sefydlwyd ‘Ar Eich Marciau’ gan Cered: Menter Iaith Ceredigion a Cheredigion Actif yn 2019 fel cystadleuaeth gwis Cymraeg ei iaith ar gyfer clybiau chwaraeon y sir. Gan nad oedd modd gwahodd clybiau chwaraeon i greu timau i gystadlu wyneb yn wyneb mewn un lleoliad eleni, penderfynwyd addasu’r gystadleuaeth i fod yn un rhithiol ar Zoom.

Yn ogystal â newid ffurf y cwis, ehangwyd y gystadleuaeth i unigolion, teuluoedd ac aelwydydd yn hytrach na chlybiau chwaraeon yn unig ac fe ehangwyd y cwis yn ddaearyddol trwy gynnal y cwis ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Ceredigion a Sir Benfro. Ers dechrau’r Cyfnod Clo mae’r ddwy Fenter Iaith wedi bod yn cydweithio ar Cica Corona sef cynllun poblogaidd i ddod ag adloniant digidol cyfrwng Cymraeg yn ddyddiol ar Facebook i bobl y ddwy sir.

Gwnaeth deg tîm gystadlu ar y noson gyda’r timau yn hanu o Geredigion, Sir Benfro a thu hwnt. Ar ôl dwyawr o hwyl a chrafu pen, Arwel Jones a’i deulu yn Nhregaron ddaeth i’r brig. Trwy gyd-ddigwyddiad Arwel oedd capten CPD Tregaron Turfs sef tîm buddugol ‘Ar Eich Marciau’ y llynedd hefyd, felly braf iawn oedd medru datgan bod y darian yn dychwelyd i Dregaron am flwyddyn arall.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered a chwisfeistr y noson: “Er bod y Coronafeirws wedi golygu gohirio a chanslo cymaint o ddigwyddiadau, yn aml mae cynnal y digwyddiad mewn modd amgen yn dod â chyfle cymdeithasol gwerthfawr gwahanol i bobl.”

Os hoffai unrhyw un gael cyngor a chefnogaeth ar drefnu digwyddiad cyfrwng Cymraeg mewn modd rhithiol cysylltwch â Cered am sgwrs ar cered@ceredigion.gov.uk.

 

18/11/2020