Lansiwyd Cynllun Llesiant Lleol cyntaf Ceredigion mewn digwyddiad gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (y Bwrdd) wedi bod yn datblygu ei Gynllun Llesiant Lleol (y Cynllun) cyntaf sy'n nodi sut y bydd y Bwrdd yn cydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Ceredigion dros y pum mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd y Cynllun ar 1 Mai 2018, ac mae’r Amcanion Llesiant o fewn y Cynllun wedi eu cynllunio i wneud y mwyaf o gyfraniad y Bwrdd yng Ngheredigion i gyflawni Nodau Llesiant cenedlaethol.

Dywedodd y siaradwr gwadd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Mae cynllunio lles bellach yn rhan o'r hyn y dylai sefydliadau yng Nghymru ei wneud er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru ac fel rhan o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Lles y Dyfodol. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi gweithio'n galed ar y cynllun lles ac rwy’n cael fy annog gan y parodrwydd i archwilio ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau hen a pharhaus, ac yn arbennig, gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill a chynnwys pobl a chymunedau Ceredigion.”

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf hon yn mynnu bod cyrff sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd trwy’r Bwrdd ar gyfer eu hardaloedd lleol. Yn dilyn Asesiad o Lesiant Lleol, defnyddiwyd y canfyddiadau gan y Bwrdd i nodi a chynllunio'r camau gweithredu ar y cyd y bydd yn eu cymryd i wella llesiant yng Ngheredigion yn awr ac yn y dyfodol.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio’r Cynllun, a agorwyd gan Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron ar Ddydd Mercher, 9 Mai 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae gwaith, amser a manylder aruthrol wedi mynd i mewn i ddatblygu’r Cynllun yma gan sicrhau ei fod yn gynhwysfawr ac yn berthnasol i Geredigion. Daeth dau faes clir i'r amlwg yn ystod Gweithdai ar ddatblygu’r Cynllun sy'n ffurfio’r Egwyddorion Arweiniol o Gydnerthedd Cymunedol a Chydnerthedd Unigol. Nodwyd 6 Amcan Llesiant hefyd, i eistedd o dan yr Egwyddorion Arweiniol, a gyda'i gilydd, mae'r rhain yn sail i'r Cynllun, a fydd yn arwain ein gwaith dros y 5 mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae'r Bwrdd yn edrych ymlaen at gyflawni’r Cynllun trwy’r Grwpiau Prosiect sydd newydd eu sefydlu ac yn gyffrous am y ffordd newydd hwn o weithio”.

Ynghyd â’r Comisiynydd a Chadeirydd y Bwrdd, yn y digwyddiad, clywodd y gynulleidfa gan Diana Davies, Rheolwr Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, a roddwyd trosolwg o’r Cynllun. Hefyd, clywyd wrth y chwe Cadeirydd newydd a gafodd eu penodi ar gyfer y Grwpiau Prosiect a’u sefydlwyd i gyflawni Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion. Y Cadeiryddion yw: Eifion Evans, Cyngor Sir Ceredigion; Hazel Lloyd Lubran, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion; Ben Wilson, Cyfoeth Naturiol Cymru; Iwan Cray, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; Rhodri Llwyd Morgan, Prifysgol Aberystwyth; a Ros Jervis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Medrir darllen mwy am y Bwrdd a’r Cynllun yma.

 

Llun: Lawns Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion

Rhes flaen: Hazel Lloyd Lubran, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion; y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Bernardine Rees OBE, Is-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Diana Davies, Rheolwr Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion.

Rhes gefn: Polly Sills-Jones, Cydlynydd Lles Rhanbarthol; Eifion Evans, Cyngor Sir Ceredigion; Ben Wilson, Cyfoeth Naturiol Cymru; Iwan Cray, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; a Ros Jervis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

09/05/2018