Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i gael grant o £125k gan Gronfa Hwyluso Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru er mwyn gosod rhodfa bwrpasol ar hyd Afon Teifi yng Nghenarth.

Caiff y cynllun ei ariannu'n gyfatebol drwy raglen gyfalaf y Cyngor a bydd yn cymryd tua thri blynedd i'w gwblhau, gyda’r gobaith o ddechrau’r prosiect diwedd haf eleni.

Bydd gwella lled ac arwyneb y llwybr yn cynyddu mynediad i drawstoriad ehangach o drigolion ac ymwelwyr ac mae'n dyst i ymrwymiad y Cyngor i leihau rhwystrau mynediad i’r cefn gwlad a chymhwyso'r egwyddorion mynediad lleiaf cyfyngol.

Bydd gwirfoddolwyr lleol yn allweddol i lwyddiant y prosiect, yn enwedig yn y broses adeiladu gychwynnol ac wrth helpu i gynnal y rhodfa er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, "Mae hyn yn newyddion ardderchog i drigolion Cenarth a'r cyffiniau. Mae'n brosiect uchelgeisiol, ac yn un a fydd yn darparu adnodd ychwanegol i drigolion ac ymwelwyr â'r ardal gan sicrhau iechyd, teithio llesol a manteision economaidd.”

Bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal ym maes parcio Rhaeadr Cenarth ar 10 Mai rhwng 2yp a 6yh, lle gellir gwesteion ofyn cwestiynau a derbyn fwy o fanylion am y prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu am sut y gallech gymryd rhan, cysylltwch â’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy e-bostio countryside@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o'r tîm. 

 

30/04/2019