Enillodd Cynllun Hyblygrwydd ECO Cyngor Sir Ceredigion wobr am y Prosiect Aml-fesur gorau yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni’r DU, a gynhaliwyd ar 7 Medi yn Birmingham.

Nod y Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni yw darparu cydnabyddiaeth gyhoeddus am y gwaith rhagorol mae’r sector ynni yn ei wneud fel y mae’n gweithio i wella stoc tai y DU.

Mae’r wobr yn cydnabod ymdrechion y rheini sydd ynghlwm mewn darpariaeth o’r prosiect effeithlonrwydd ynni ar raddfa fawr llwyddiannus, ble mae sawl mesur effeithlonrwydd ynni o fathau gwahanol wedi cael eu gosod. Cafodd Cyngor Sir Ceredigion eu henwebu am y wobr yma gan E-on Energy drwy eu perthynas gweithio agos, ynghyd â City Energy, un o’r prif gontractwyr sy'n gosod y ddarpariaeth.

Mae’r cynllun wedi bod yn rhedeg ers dechrau’r flwyddyn, yn dilyn canllawiau am ECO LA Flex wedi’i osod gan Adran Cenedlaethol y Llywodraeth am Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiannol (BEIS). Mae hyn wedi rhoi’r cyfle delfrydol i Gyngor Sir Ceredigion i ymgysylltu â darparwyr ynni ar sut maent yn cwrdd a’r gofynion i osod mesuriadau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi gan ddefnyddio cyllid ECO.

Yng Ngheredigion, mae’r cynllun wedi profi i fod yn boblogaidd iawn, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ddim ar brif gyflenwad nwy, sef pentrefi gwledig. Derbynniwyd dros 2,300 o geisiadau ers i’r cynllun ddechrau. Gyda’r BEIS yn cydnabod hyn, maent wedi rhoi’r cyfle i Gyngor Sir Ceredigion dargedu cartrefi sydd ar incwm isel ac yn byw mewn eiddo sydd wedi’i inswleiddio’n wael, ac felly’n ei gwneud hi’n anodd i’w twymo.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Eiriolwr Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Cynaladwyedd, “Wrth ennill y wobr yma, mae'n dangos bod Ceredigon yn hollol ymroddedig i agenda rheoli carbon ac yn dangos bod ein staff yn barod i roi’r amser a’r ymdrech i helpu ein trigolion i arbed ynni ac i daclo tlodi tanwydd. Da iawn i’r tîm o swyddogion sy’n rhan o hyn. Rwy’n annog unrhyw drigolion sydd yn meddwl efallai eu bod yn gymwys i elwa o’r cynllun yma i ymweld â gwefan y Cyngor am fwy o wybodaeth. Gall hyn arbed arian i chi trwy wneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran defnydd ynni.”

Mae gosodiadau sydd wedi helpu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Ngheredigion yn cynnwys systemau gwres newydd, ailosod bwyler, insiwleiddio’r atig ac insiwleiddio mewn ystafelloedd yn yr atig.

Rôl y Cyngor yw gymhwyso ceisiadau a darparu datganiadau i alluogi cartrefi i gael mynediad at y cyllid posibl i’r cwmni ynni ar gyfer y gwaith. Nid yw’r datganiad ei hun yn gwarantu unrhyw gyllid neu waith - mae’n basbort i ymchwilio â’r contractwyr ECO at ba gyfleoedd sydd ar gael i’r eiddo. Mae nifer o brif gontractwyr wedi cael eu caffael. Mae’r contractwyr yma yn gweithio’n agos â’r darparwyr ynni er mwyn cael y cyllid ECO. Mae rhai contractwyr lleol wedi arwyddo gyda’r cwmnïoedd mwy er mwyn darparu’r cynllun yn lleol.

Am fwy o wybodaeth ar Gynllun Hyblygrwydd ECO, ymwelwch â’r tudalen ar y we: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cyllid-hyblygrwydd-eco/.

19/09/2018