Ar 13 Chwefror, cynhaliwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cymru yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd. Enillodd Cyngor Sir Ceredigion ddwy o’r prif wobrau sy’n cydnabod ymrwymiad y cyngor i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac am gyflenwi prosiect arbed ynni llwyddiannus ar raddfa fawr.

Derbyniodd y cyngor y brif wobr am ‘Gyngor Rhanbarthol neu Awdurdod Lleol y Flwyddyn’, am hyrwyddo effeithlonrwydd ynni. Ystyriodd y beirniaid natur, graddfa a chwmpas y gwaith a wnaed, yr effaith y mae eu gwaith wedi’i chael ar y gymuned leol a’r flaenoriaeth a roddwyd gan y cyngor i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Cafodd y cyngor y brif wobr hefyd am ‘Prosiect ar Raddfa Fawr’ (mwy na £250k), i gydnabod eu llwyddiant wrth gyflenwi mesurau effeithlonrwydd ynni mewn eiddo ledled Ceredigion. Cyflenwodd y cyngor y prosiect mewn partneriaeth ag E-on Energy a City Energy, sydd wedi ariannu’r gwaith. Mae’r wobr hon yn cydnabod ymdrechion pawb sy’n gysylltiedig yn lleol wrth gyflenwi prosiect arbed ynni llwyddiannus ar raddfa fawr, safon uchel o grefftwaith o ansawdd, wrth gynnal gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw aelod y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Dai. Dywedodd, “Mae hon yn camp wych i Dîm Iechyd yr Amgylchedd wrth gydnabod y gwaith a’r ymrwymiad a wnaed i sicrhau bod opsiynau ar gael i drigolion Ceredigion sydd angen y gefnogaeth ychwanegol honno arnynt o ran gwresogi eu cartrefi yn effeithlon.”

Mae’r cyngor, ynghyd ag E-on Energy a City Energy, wedi bod yn cyflenwi’r cynllun Hyblygrwydd ECO Awdurdod Lleol am ychydig dros flwyddyn ac mae’r cynllun wedi cyflenwi dros 900 o fesurau i gartrefi yn y sir.

Cyflwynwyd y Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni i helpu cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud gan y sector effeithlonrwydd ynni yng Nghymru wrth iddynt gyflawni’r Rhwymedigaeth Cwmnïoedd Ynni. Cyflwynwyd y mesurau i helpu perchnogion tai i leihau eu biliau ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

Ymwelwch â Cyllid Hyblygrwydd ECO - Systemau Gwresogi, Uwchraddiadau a Mesurau Insiwleiddio ar wefan y cyngor am fwy o wybodaeth am Gyllid Hyblygrwydd ECO.

 

06/03/2019