Cymeradwywyd Strategaeth Anabledd Dysgu Ceredigion hyd at 2023 gan Gabinet y cyngor ar 19 Chwefror. Yn dilyn y gymeradwyaeth, bydd cynllun gweithredu yn cael ei baratoi i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith. Mae hyn yn golygu y bydd yr help cywir ar gael i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i integreiddio mor llawn ag sy’n bosibl i’r gymdeithas.

Strategaeth ar y cyd yw'r strategaeth rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae'n nodi'r weledigaeth a'r uchelgais i sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, Gofalwyr ac eraill yn ganolog i'r gwaith o ddylunio a datblygu gwasanaethau.

Mae gan y strategaeth 60 o argymhellion o dan bedwar canlyniad allweddol. Bwriedir iddynt fod ar waith erbyn 2023 drwy ddatblygu'r cynllun gweithredu. Dywedodd yr ymgynghoriad wrthym ba feysydd sydd bwysicaf i bobl, a bydd hyn yn llywio'r broses o flaenoriaethu gwaith wrth symud ymlaen.

Y Cynghorydd Alun Williams yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Oedolion. Meddai, "Ddylai anableddau dysgu ddim bod yn rhwystr rhag byw bywyd llawn a boddhaus. Mae angen i ni wrando ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau a'n Gofalwyr a'u cynnwys gymaint ag sy’n bosib yn y ffordd yr ydym yn rhoi gwasanaethau at ei gilydd."

“Mae'r strategaeth hon yn bwriadu gwneud hynny yn union, ac wrth i'r argymhellion gael eu gweithredu, rwy'n siŵr y bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau'r nifer cynyddol o bobl sydd ag anableddau dysgu yng Ngheredigion.”

Judith Hardisty yw Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Meddai, “Bydd y strategaeth hon yn sicrhau gweledigaeth ac ymrwymiad ar y cyd i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu yng Ngheredigion i fyw'n fwy annibynnol; darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ystyrlon a mwy o gyfleoedd i wirfoddoli.

“Mae hefyd yn gyfle i bawb gydnabod amrywiaeth ein poblogaeth ac felly i ymrwymo i ddull sy'n galluogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu trin yn y ffordd a ddymunant. Rwy'n croesawu'r dull hwn sy'n rhoi'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd y ffordd rydym yn datblygu'r gwasanaethau hynny.”

Bydd Bwrdd Partneriaeth Anableddau Dysgu Ceredigion yn cryfhau ei aelodaeth i gynnwys pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd, Gofalwyr a'u heiriolwyr er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn diwallu anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol.

27/02/2019