Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn dod i ben ddydd Llun, 28 Chwefror. Mae 48% o aelwydydd Ceredigion a all fod yn gymwys eto i gyflwyno cais.

Hyd yma, mae 2,520 o ymgeiswyr wedi elwa drwy hawlio o’r cynllun, a thalwyd £504,000 i gyd.   

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 i gael cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid yn ystod y gaeaf ar gyfer eu prif breswylfa yng Nghymru.

Mae aelwydydd yn gymwys os ydynt yn derbyn budd-daliadau penodol ac yn talu am drydan neu nwy o’r prif gyflenwad ar gyfer yr eiddo. Nid oes angen iddynt, o reidrwydd, fod yn gwresogi cartrefi â thrydan er mwyn elwa. 

Mae aelwydydd sy’n gwresogi eu cartrefi ag olew/LPG/glo ac yn derbyn trydan ar gyfer yr oergell/teledu/golau yn eu cartrefi yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth Tanwydd Gaeaf. 

Gall aelwydydd sy’n gwresogi eu cartrefi oddi ar y grid – ag olew, coed tân, glo neu nwy potel ac yn wynebu caledi ariannol hefyd gyflwyno cais am gymorth ychwanegol o’r Gronfa Cymorth Dewisol.  Mae’r cynllun hwn bellach wedi cael ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.    

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Hyrwyddwr Gwrthdlodi Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hwn yn newyddion i’w groesawu’n fawr, bod cymorth tanwydd gaeaf y Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer cleientiaid oddi ar y grid wedi’i ymestyn drwy fisoedd yr haf a’r gaeaf nesaf hyd at ddiwedd Mawrth 2023, mewn ymateb i gostau tanwydd cynyddol a’r argyfwng costau byw. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â’r eglurhad y gall rhai o aelwydydd Ceredigion fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol, fod o gymorth i leddfu rhai o’r trafferthion ariannol mae ein preswylwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd.” 

Gall preswylwyr Ceredigion gyflwyno cais am £200 gan y Gronfa Cymorth Tanwydd Gaeaf drwy fynd i Gynllun Cymorth Taliad Gaeaf - Cyngor Sir Ceredigion  

Er mwyn cyflwyno cais am hyd at £250 gan y Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth tuag at gostau olew neu hyd at £70 am gymorth tuag at gostau nwy LP, rhaid i breswylwyr gysylltu â gweithiwr cymorth, gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai, Cyngor ar Bopeth neu weithiwr proffesiynol tebyg i wneud y cais ar eu rhan. 

Gall y Gronfa Cymorth Dewisol hefyd gynorthwyo aelwydydd a effeithiwyd gan y stormydd diweddar i dalu costau hanfodol - gall y grant gynorthwyo aelwydydd mewn argyfwng â chostau bwyd, nwy a thrydan, er enghraifft, os yw aelwyd wedi cael toriad ynni a bod bwyd wedi difetha (megis bwyd wedi dadmer). Ceir rhagor o wybodaeth am y gronfa hon yma: Cronfa Cymorth Dewisol - Llywodraeth Cymru

 

23/02/2022