Mae Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cymru (NERS) wedi’i chynllunio i gynorthwyo unigolion Ceredigion i fanteisio ar fuddion ymarfer corff pleserus, o ansawdd uchel ac o dan oruchwyliaeth, i wella eu hiechyd a’u lles, a glustnodwyd gan eu Meddyg Cyffredinol.

Ar gyfer pobl dros 16 oed sydd ddim yn gwneud ymarfer corff yn aml, ac sy'n dioddef o broblemau iechyd, mae'r cynllun yn cynnig ystod eang o ymarferion cadw’n heini a sesiynau lles. Mae’r rhain yn cynnwys Hyfforddiant Campfa dan oruchwyliaeth, Cylchedu, Atal Cwympo, Adsefydlu ac Atal Cardiaidd, Aerobeg, Tai Chi mewn steil myfyrdod, Pilates Ysgafn ar gyfer gofal cefn, Beiciau Troelli, Aerobeg Dŵr a sesiynau Cydbwyso a Sefydlogrwydd.

Amlygodd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Hamdden, fuddiannau’r cynllun. “Mae nifer o fuddiannau corfforol, seicolegol a chymdeithasol o fod yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys adeiladu hyder, gwell hunan-barch, cwrdd â phobl newydd a bod mwy ffit ac iach yn gyffredinol. Bydd Tîm Ymyrraeth Iechyd cymwysedig Ceredigion Actif yn darparu cyfleoedd sy’n hwyl, yn foddhaol a fedr gael eu defnyddio ym mywyd bob dydd.”

Ar hyn o bryd, mae’r cynllun yn rhedeg yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Canolfan Hamdden Llambed, Canolfan Hamdden Tregaron, Canolfan Hamdden Llandysul, Canolfan Hamdden Teifi a nifer o neuaddau cymunedau o amgylch y sir.

I gymryd rhan yn y cynllun, mae angen i drigolion ymweld â’u meddyg lleol i wirio eu cymhwyster yn gyntaf. Ar ôl i’r cymhwyster cael ei gadarnhau, bydd aelod o Tîm Ymyrraeth Iechyd Cyngor Sir Ceredigion yn darparu ymgynghoriad cychwynnol gyda rhaglen yn cael ei greu yn unol ag anghenion personol y cyfranogwr. Tâl y cynllun yw £2 am bob sesiwn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Ceredigion Actif, ffoniwch 01545 570 881 neu gysylltu trwy www.ceredigion.gov.uk/cyswllt.

 

11/09/2018