Ar 5 Gorffennaf 2019, gwnaeth Tîm Sbectrwm Awtistiaeth Ceredigion a Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gynnal Cynhadledd Awtistiaeth Ceredigion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn y chweched gynhadledd flynyddol hon, canolbwyntiodd bobl awtistig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw o ran beth yw syniadau pobl eraill am awtistiaeth. Fe wnaethant hefyd edrych ar sut y cân nhw gefnogaeth os a phan fod angen hynny, a sut mae modd i bobl eraill eu helpu i feithrin hunan-barch, hyder a hunaniaeth.

Daeth dros 130 o bobl i’r gynhadledd gan dynnu ynghyd pobl awtistig, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol. Roedd yr agenda yn hyrwyddo’r ethos a’r weledigaeth sydd gennym o ddeall awtistiaeth fel ffordd wahanol o feddwl, dysgu a bod; gwahanol ond yr un mor werthfawr.

Cyd-gadeiryddion y gynhadledd oedd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Oedolion a’r hyrwyddwr ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, a John Harrington, Pennaeth Gwasanaethau Hygyrchedd, Prifysgol Aberystwyth. Agorwyd y gynhadledd gan Carys James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

Dywedodd Cynghorydd Williams, “Hwn oedd y chweched gynhadledd awtistiaeth i’w gynnal yn Aberystwyth ac roedd nifer fawr o bobl yno unwaith eto. Er bod y gynulleidfa'n gymysgedd o bobl awtistig, ffrindiau a gofalwyr ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn meysydd cysylltiedig, roedd y siaradwyr a'r panelwyr i gyd yn bobl awtistig. Caniataodd hyn iddynt osod yr agenda a darparu cyfle dysgu unigryw i weithwyr proffesiynol i ddeall yn well y math o gefnogaeth a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella’r gwasanaethau a ddarparwn yng Ngheredigion ymhellach.”

Dywedodd John Harrington, “Mae bob amser yn fraint enfawr i gyd-gynnal Cynhadledd Awtistiaeth Ceredigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd pob un o'r prif siaradwyr eleni yn ysbrydoledig ac yn procio’r meddwl am eu siwrneiau trwy fywyd awtistig.”

Y prif siaradwyr eleni oedd Chris Bonnello, a roddodd ei 11 o gynghorion ar gyfer meithrin oedolion a phlant awtistig; Marianthi Kourti a ddisgrifiodd yr her o fod yn awtistig ac yn weithiwr proffesiynol ym maes awtistiaeth; a Kieran Rose a roddodd gyflwyniad teimladwy a diddorol am effeithiau ‘masgio’ a beth sydd angen newid er mwyn i bobl awtistig gael eu derbyn a’u cefnogi’n llawn.

Ar gyfer sesiwn olaf y diwrnod, ymunodd pobl awtistig â’r prif siaradwyr i greu panel arbenigol a buon nhw’n rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau o wasanaethau cymorth gan ateb cwestiynau’r gynulleidfa.

 

16/07/2019