Gyda rhannau o Gymru yn cael eu hystyried fel safleoedd posibl i gladdu gwastraff ymbelydrol, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ailadrodd ymrwymiad di-niwclear hirsefydlog.

Cymeradwywyd cynnig gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2006 a oedd yn gwneud ymrwymiad y byddai'r cyngor yn Awdurdod Lleol Di-Niwclear. Gwnaed ymrwymiad arall i gefnogi dewisiadau cynaliadwy eraill yn lle ynni niwclear.

Cynigiodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y cynnig yn 2006 ac mae bellach yn Arweinydd y Cyngor. Dywedodd, "Does dim wedi newid yn sut mae’r cyngor yn ymdrin â phŵer niwclear. Mae'n amlwg i ni nad yw'r rhan fwyaf o drigolion Ceredigion eisiau safleoedd niwclear yn y sir.”

“Pasiodd y cyngor gynnig 13 mlynedd yn ôl yn ymrwymo i fod yn ddi-niwclear. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hynny ac ni fyddwn yn croesawu unrhyw wastraff ymbelydrol ym Mae Ceredigion.”

Mae allyriadau carbon y cyngor wedi gostwng bron 45% ers 2007. Mae swyddfa'r cyngor yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol wedi ennill gwobrau cynaladwyedd ac mae bron i 200 o baneli solar ar y to.

Mae'r cyngor wedi arwyddo addewid i newid goleuadau stryd i ddefnyddio bylbiau LED erbyn 2022.

05/03/2019