Wrth i drafodaethau Brexit fynd rhagddynt ac yn rheolaidd yn y penawdau, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn paratoi ar gyfer ystod o effeithiau posibl Brexit. Mae'r paratoadau wedi'u cynllunio i leihau unrhyw effeithiau negyddol y gallai Brexit ei gael ar drigolion Ceredigion.

Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Meddai, “Dydyn ni ddim yn gwybod ar ba ffurf y bydd Brexit yn cymryd. Rydym yn gobeithio na fydd llawer o darfu, os o gwbl, ar drigolion neu wasanaethau'r cyngor. Fodd bynnag, rydym yn gwneud paratoadau gofalus i leihau unrhyw effeithiau negyddol y gallai Brexit ei gael.”

Mae'r cyngor wedi bod yn paratoi mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithio gyda chwmnïau sy'n darparu bwyd i ysgolion a ffreuturau i weld sut y gallai gwahanol fathau o Brexit effeithio ar eu gallu i ddarparu cynhwysion. Mae cynlluniau wedi'u gwneud i ddefnyddio cynhwysion arall os na ellir gael rhai cynhwysion os yw Brexit yn effeithio ar fwyd sy'n dod i mewn i'r wlad.
  • Mae swyddogion gofal cymdeithasol y cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar ran y cyngor. Mae'r swyddogion wedi bod yn helpu cwmnïau i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd Brexit gyda bargen neu heb fargen. Mae themâu cyffredin y mae'r cwmnïau wedi bod yn eu trafod yn ymwneud â cyflenwadau meddygol a bwyd a staffio.
  • Mae adnoddau dynol wedi bod yn adnabod gwladolion yr UE sy'n gweithio i'r cyngor ac sy'n gweithio i wasanaethau sy’n cael eu comisiynu gan y cyngor. Mae cynlluniau'n cael eu gwneud i'w helpu i wneud cais am statws sefydlog pan fydd y broses yn dechrau ar 29 Mawrth. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu gwneud i helpu trigolion o wledydd yr UE i wneud cais.
  • Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi ystyried yr effaith debygol ar swyddogion o ran darparu trwyddedau allforio ychwanegol i gwmnïau sy'n allforio bwydydd penodol i wledydd yr UE ar ôl Brexit.
  • Mae'r cyngor yn cyfrannu'n llawn fel aelod gweithredol o Fforwm Dyfalbarhad Lleol Dyfed Powys. Mae'r fforwm aml-asiantaeth yn cwmpasu ardal Heddlu Dyfed Powys. Mae'n gyfrifol am reoli risgiau difrifol i'r gymuned ar y cyd.

 

20/03/2019