Mae pedwar person wedi llwyddo i gwblhau prentisiaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Gareth John, Ceri-Anne Hughes, Alanah Lloyd a Sam Pinnell-Hirst oedd y rhai cyntaf i gael eu recriwtio i gynllun newydd y Cyngor a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2018, ac maen nhw wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn ennill cyflog wrth iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd.

Cwblhaodd Sam ac Alanah gymwysterau mewn Gweinyddu Busnes, cwblhaodd Gareth gymhwyster mewn Gwaith Ieuenctid a Ceri-Anne gymhwyster mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ers hynny, mae’r pedwar wedi llwyddo i gael gwaith a buon nhw’n dathlu eu llwyddiant yn ddiweddar. Bydd Gareth, Alanah a Ceri-Anne yn parhau â’u gyrfaoedd gyda Chyngor Ceredigion a bydd Sam yn symud i weithio gyda Chyngor Sir Powys.   

Dywedodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cynnig y prentisiaethau hyn. Eleni bu cynnydd mawr o ran ymholiadau a cheisiadau i’n cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at weld pedwar prentis arall yn dechrau ar eu gyrfaoedd gyda ni yn fuan.” 

Gall dod o hyd i ragor o wybodaeth ar gynllun prentisiaethau ar: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/swyddi-a-gyrfaoedd/prentisiaethau/

07/11/2019