Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol, a thrwy arian o Gynllun Urddas Cyfnod Mislif Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl fynediad at nwyddau mislif yn y gymuned.

Mae nifer o sefydliadau a grwpiau lleol wedi derbyn cyflenwad o nwyddau mislif sydd ar gael i’w dosbarthu i unigolion sy’n wynebu caledi o fewn ein cymunedau.

Nod y Cyngor yw sicrhau bod tamponau, tyweli mislif, neu ddewisiadau amgen a chynaliadwy ar gael i bobl o gartrefi incwm isel yng Ngheredigion nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Mae gan sefydliadau a grwpiau cymorth lleol gyfoeth o wybodaeth am eu hardaloedd lleol, a byddant yn gallu cefnogi’r rhai sydd mewn angen drwy sicrhau eu bod yn derbyn y cynhyrchion hyn yn ystod y cyfnod arbennig o heriol hwn.

I gael gwybod pa grwpiau neu sefydliadau sydd â chyflenwad yn eich ardal leol chi, cysylltwch â CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Gallwch hefyd dderbyn cynnyrch am ddim o Ganolfannau Hamdden Plascrug, Llambed, Aberteifi, Aberaeron, Tregaron a Llandysul.

I gael gwybod mwy am gymorth a grantiau eraill sydd ar gael i’r rheini sy’n wynebu caledi, ewch i’r adran ynghylch budd-daliadau ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/budd-daliadau.

07/04/2022