Mae Datganiad Blynyddol Atal-Caethwasiaeth cyntaf y Cyngor wedi cael ei gadarnhau yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 04 Medi. Mabwysiadwyd hefyd Cynllun Gweithredu Atal-Caethwasiaeth y bydd nawr yn cael ei weithredu.

Wedi ei nodi yn y Datganiad Blynyddol, mae’r Cyngor yn adrodd ar dri maes gweithredu allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys; y prosesau sydd wedi eu sefydlu i daclo Caethwasiaeth Fodern, y camau sydd wedi eu cymryd i atal Caethwasiaeth Fodern yng nghadwyni cyflenwi’r Cyngor, a’r camau sydd wedi eu cymryd i sicrhau ymarferion cyflogaeth dda.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r Polisi Caethwasiaeth Fodern, gan gynnwys diogelu a bodloni gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac aelod Cabinet dros Bolisi, Perfformiad, Partneriaethau a Gwasanaethau Democrataidd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Y llynedd, roedd Cyngor Sir Ceredigion ymysg y cynghorau cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Polisi Atal-Caethwasiaeth. Rydym erbyn hyn wedi cymeradwyo ein Datganiad Blynyddol cyntaf ac wedi mabwysiadu cynllun gweithredu penodol er mwyn taclo a rhwystro trosedd sy’n targedu rhai o’r aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Dw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r cynllun yn symud ymlaen.”

Adiodd Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol ac Atal Caethwasiaeth, y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE, “Mae’r Datganiad Blynyddol a’r Cynllun Gweithredu yn ei wneud yn glir iawn; bydd y Cyngor yn cymryd pob cyfle i daclo Caethwasiaeth Fodern nid yn unig yn ei waith ei hun, ond hefyd yn y gadwyn cyflenwi sy’n deillio o’r Cyngor. Mae hwn yn wir broblem sy’n effeithio ar bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae’n bwysig ein bod yn wyliadwrus i’r bygythiad”

Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys y symudiad, gorfodaeth a chamfanteisio o oedolion bregus a phlant. Mae’r mathau o gamfanteisio yn cynnwys camfanteisio ar weithwyr, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol, caethwasanaeth domestig a thynnu organau. Yn 2017, adroddwyd yr oedd 193 o ddioddefwyr posib o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru. Plant oedd 44% ohonynt. Amcangyfrir y gall fod 10,000 i 13,000 o ddioddefwyr o gaethwasiaeth fodern yn y DU.

Mabwysiadwyd Polisi Atal Caethwasiaeth Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Rhagfyr 2017. Penodwyd y Cynghorydd Lyndon Lloyd yn Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth ar yr un pryd. Mae’r Polisi yn cynnwys dull integredig sy’n tynnu ynghyd feysydd allweddol diogelu, adnoddau dynol, caffael ac argyfyngau sifil.

04/09/2018