Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gael cyngor ar sut gallai Brexit effeithio ar y sector amaethyddol a'u busnesau. Mae'r DU ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.

Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyngor am effeithiau posibl Brexit ar fusnesau amaethyddol gan Gyswllt Ffermio a'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth. Mae gan y sefydliadau hyn wybodaeth a chyngor ar-lein a gellir cysylltu â hwy dros y ffôn. Mae Busnes Cymru yn rhedeg Porth Brexit ar-lein sy'n asesu parodrwydd busnesau ar gyfer Brexit.

Russell Hughes-Pickering yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Economi ac Adfywio. Meddai, “Amaethyddiaeth yw asgwrn cefn economi Ceredigion. Fel busnesau, mae angen i ffermydd baratoi ar gyfer effeithiau posibl Brexit.”

“Dyn ni ddim yn gwybod ar ba ffurf y bydd Brexit yn cymryd, ac nid yw hyn am gymryd ochrau. Gallai gael effaith sylweddol iawn ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac mae angen i ffermwyr gymryd camau i baratoi.”

Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i helpu Ceredigion i baratoi ar gyfer effeithiau posibl Brexit. Nod y paratoadau yw lliniaru effeithiau posibl Brexit ar ein cymunedau a'n busnesau.

Ceir gwybodaeth am baratoi ar gyfer Brexit ar wefan y cyngor ar www.ceredigion.gov.uk/ParatoiArGyferBrexit

11/03/2019