Mae cynghorwyr Ceredigion wedi cefnogi cynnig i wneud Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Cefnogodd y cynghorwyr y cynnig mewn cyfarfod ar 20 Mehefin 2019.

Seiliwyd y cynnig terfynol ar gynnig cychwynnol gan y Cynghorydd Mark Strong a oedd yn codi pryderon am Argyfwng Hinsawdd. Gwnaed gwelliant i ymrwymo'r cyngor i darged uchelgeisiol a phenodol. Cytunodd y cynghorwyr hefyd y dylid datblygu cynllun clir o fewn 12 mis i sicrhau'r statws carbon sero net.

Galwodd cynghorwyr hefyd ar Lywodraethau Cymru a'r DU i ddarparu'r cymorth sydd ei angen i leihau carbon yn effeithiol.

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong. Dywedodd, “Yn wyneb Argyfwng Hinsawdd, rwy'n falch bod fy nghyd-gynghorwyr wedi cytuno bod angen i ni gymryd camau mawr i leihau ein hallyriadau. Mae'r cyngor eisoes wedi lleihau allyriadau carbon lawer iawn, ond mae’n rhaid inni fynd llawer ymhellach.”

Yn gynharach yn y mis, cymeradwyodd Cabinet y cyngor ei drydydd Cynllun Rheoli Carbon. Mae'r cynllun newydd uchelgeisiol yn targedu gostyngiad o 15% mewn allyriadau erbyn 2023. Mae'r cynlluniau blaenorol wedi sicrhau gostyngiad o 45% o CO2 ers 2007/8, gostyngiad o dros 7,000 tunnell o CO2.

Mae'r Cynllun Rheoli Carbon newydd yn cynnwys nifer o brosiectau i gyrraedd y targed ar gyfer lleihau gollyngiadau. Maent yn cynnwys buddsoddi mewn fflyd newydd fwy ynni effeithlon o gerbydau cyngor a gwella systemau gwresogi yn ysgolion Ceredigion.

21/06/2019