Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei ymgyrch recriwtio prentisiaid ddiweddaraf gyda 6 chyfle newydd a chyffrous bellach yn cael eu hysbysebu ar careers.ceredigion.gov.uk/cy/.

Mae cyfleoedd ar gael ar gyfer Archwilydd Cynorthwyol, Gweithiwr Ieuenctid a Gweithiwr Ffordd yn ogystal â thair prentisiaeth ym maes Gweinyddu Busnes o fewn Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau, Dysgu a Datblygu, a’r Uned Gofalwyr, ac mae gan ymgeiswyr hyd at ddydd Sul 23 Awst i wneud cais.

 

O ganlyniad i ledaeniad y Coronafeirws ym mis Mawrth, roedd yn rhaid ailfeddwl sut i barhau i gynnig cyfleoedd prentisiaeth i bobl Ceredigion. Dywedodd Caroline Lewis, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Pobl a Threfniadaeth, “Rwy'n falch o ddweud ein bod yn parhau i gynnig prentisiaethau ar draws ystod o broffesiynau er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y Coronafeirws. Mae gweithgareddau a fyddai wedi digwydd wyneb yn wyneb yn y gorffennol, megis cyfweliadau a hyfforddiant, bellach yn digwydd ar-lein. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cymorth drwy gydol y broses gyfan, ac mae iechyd a diogelwch y cyhoedd, ein staff presennol a recriwtiaid newydd yn hollbwysig."

Ar ôl cwblhau ei Lefel A yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ymunodd Callum Baugh, sy’n bedair ar bymtheg oed, â Chyngor Sir Ceredigion fel Prentis Technegydd TGCh yr hydref diwethaf. Mae Callum yn gweithio o’r swyddfa yng Nghanolfan Rheidol fel arfer, ond mae wedi bod yn gweithio o adref oherwydd pandemig y Coronafeirws. Dywedodd, “Rwyf wedi addasu i weithio o adref ac rwyf mewn cysylltiad â phobl yn fy nhîm a'm rheolwr bob dydd, os nad sawl gwaith mewn diwrnod, felly mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol, er ei fod o dan amgylchiadau anodd. Rwyf wedi parhau i ddysgu wrth weithio ac mae fy nghymhwyster wedi parhau ar-lein ac rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod y misoedd diwethaf."

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae prentisiaethau yn cynnig cyfle gwych i bobl ennill cyflog wrth ddysgu, ac rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i gynnig 6 o gyfleoedd prentisiaeth eleni i bobl ddechrau neu ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae mwyafrif helaeth ein prentisiaid yn mynd ymlaen i sicrhau gwaith parhaol â’r Cyngor neu’n symud ymlaen i hyfforddiant pellach. Rwy’n gobeithio y bydd pobl ar draws Ceredigion yn ystyried ymgeisio, mae’r rhain yn gyfleoedd na ddylid eu colli.”

Mae’r cyfleoedd prentisiaeth newydd yn cael eu hysbysebu ar-lein nawr ar careers.ceredigion.gov.uk/cy/ a’r dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Sul 23 Awst 2020.

05/08/2020