Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn i gyd-fynd â’r dyddiad y rhyddhawyd Auschwitz-Birkenau, gwersyll crynhoi a difodi mwyaf y Natsïaid.

Mae’n ddiwrnod i bawb gofio dioddefwyr hil-laddiad ledled y byd, gan gynnwys anrhydeddu’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, y miliynau o bobl a laddwyd yn sgil erledigaeth y Natsïaid ac yn yr achosion eraill o hil-laddiad sydd wedi digwydd ers hynny yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn goleuo tri o adeiladau mwyaf eiconig Aberystwyth i ddangos undod a pharch ac anrhydeddu pawb sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiad. Rhwng dydd Mercher 26 Ionawr a dydd Gwener 28 Ionawr 2022, bydd y bandstand ar lan y môr Aberystwyth, Castell Aberystwyth a Chanolfan Alun R. Edwards yn cael eu goleuo’n borffor.

Y thema eleni yw Un Diwrnod, sy’n rhoi cyfle i ni ddychmygu un diwrnod yn y dyfodol heb hil-laddiad neu ddysgu o un diwrnod mewn hanes.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, gadewch i ni i gyd fanteisio ar y cyfle i oedi, myfyrio a dysgu gwersi o’r gorffennol a chymhwyso’r gwersi hynny i’r presennol er mwyn creu dyfodol mwy diogel a gwell i bawb.”

Gyda’n gilydd rydym yn dyst i’r rhai a ddioddefodd hil-laddiad ac yn anrhydeddu’r goroeswyr a phawb y cafodd eu bywydau eu newid yn llwyr. 

Gallwch ddysgu mwy am Ddiwrnod Cofio’r Holocost a thema eleni ar wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost: https://www.hmd.org.uk/what-is-holocaust-memorial-day/this-years-theme/

24/01/2022