Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog ei drigolion i ddilyn canllawiau'r coronafeirws wrth i nifer yr achosion godi yn y Sir.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer yr achosion yn y Sir wedi cynyddu'n sylweddol ac rydym bellach yn profi'r nifer uchaf o achosion positif ers dechrau'r pandemig.

Rydym bellach yn gweld y feirws yn lledaenu yn ein cymunedau, a gellir gweld nifer o’r achosion yn ymwneud â digwyddiadau fel partïon a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r math hwn o ymddygiad yn gwbl anghyfrifol ac mae'n peryglu iechyd ein hanwyliaid, mae'n cael effaith uniongyrchol ar addysg ein plant ac mae'n rhoi pwysau ar y GIG.

Mae ein swyddogion olrhain cyswllt wedi nodi bod nifer y cysylltiadau ar gyfer pob achos positif wedi cynyddu, sy'n dweud wrthym fod pobl yn cymysgu aelwydydd ac yn cymysgu'n gymdeithasol.

Mae'r Cyngor wedi gweithredu ac wedi cyflwyno hysbysiadau gwella a chau i sawl busnes lle maent wedi bod yn torri rheoliadau coronafeirws. Bydd y Cyngor yn parhau i gyhoeddi hysbysiadau lle byddwn yn dod yn ymwybodol o bryderon neu achosion o dorri amodau. Anogir aelodau o'r cyhoedd i roi gwybod i ni os oes ganddynt unrhyw bryderon nad oes gan fusnes yng Ngheredigion fesurau digonol ar waith i weithredu'n ddiogel.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion bob amser yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw ein trigolion yn ddiogel a bydd yn cymryd camau pendant pan fo angen.

Ond, mae'n rhaid i chi chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau:

  • Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gall aelwydydd ffurfio 'swigen' gyda'i gilydd - ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i'r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref yn unig i gael prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19. Byddwn yn diogelu'r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn galluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

22/11/2020