Bydd trigolion Ceredigion yn cael cyfle i ddangos sut y maent am i gyllideb y cyngor gael ei wario yn 2020-2021. Bydd yr adborth gan breswylwyr yn helpu’r cyngor i bennu cyllideb y flwyddyn nesaf.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal ymarfer her cyllideb ar-lein yn ystod Hydref 2019. Bydd efelychydd cyllideb yn rhoi cyfle i drigolion benderfynu ble bydden nhw’n blaenoriaethu gwariant. Cânt eu herio i wneud arbedion yn y gyllideb drwy leihau’r swm y maent yn ei wario ar wasanaethau’r cyngor.

Er bod yn her ar-lein yn unig, bydd preswylwyr sydd am gymryd rhan ond sy’n methu â chwblhau’r her ar-lein yn gallu cael cymorth digidol gan lyfrgelloedd y cyngor.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid. Dywedodd, “Mae toriadau o lywodraeth ganolog a phwysau cynyddol ar gostau yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud toriadau i wasanaethau. Bob blwyddyn mae gennym y dasg sydd bron yn amhosibl o osod y gyllideb sydd am gynnig y gwasanaethau gorau i drigolion, wrth cael ein gorfodi i wneud toriadau i gyllidebau.”

“Eleni, rydym am roi’r cyfle i drigolion ddangos i ni sut y bydden nhw’n gosod ac yn torri cyllideb y cyngor. Wedi’r cyfan, eu gwasanaethau hwy sy’n cael eu heffeithio. Ar ôl blynyddoedd o doriadau gan lywodraeth ganolog, mae gwasanaethau’r cyngor yn disgyn i’r asgwrn; felly mae unrhyw doriad pellach yn mynd i fod yn boenus a bydd yn cael effaith ar wasanaethau. Dyma realiti’r rydyn ni’n ei wynebu, ac rydyn ni eisiau i’r preswylwyr ddweud eu dweud am sut y dylid gwneud hyn.”

Ar ôl i’r cyfranogwyr osod y gyllideb, gellir cyflwyno’r canlyniadau. Bydd y data a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i baratoi adroddiad dadansoddi. Bydd yr adroddiad yn helpu gyda’r broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2020-21.

09/08/2019