Mae cyngor wedi cael ei ddarparu i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd ar wyliau yng Ngheredigion ac i ddarparwyr llety.

Os bod unigolion wedi bod i ffwrdd o ardal leol Caerffili ers cryn amser yn barod, a’i fod yn gallu cadw draw, ystyrir ei bod yn rhesymol iddo wneud hynny. Cynghorir pobl i beidio â chwtogi ar hyd eu gwyliau gan y gallai hynny achosi anawsterau.

Fodd bynnag, dylai pobl sydd wedi gadael ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili ychydig cyn i’r cyfyngiadau gael eu rhoi ar waith fod yn ymwybodol eu bod yn peri risg uwch o drosglwyddo'r feirws. Felly, yn ddelfrydol, dylent ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl.

Unwaith y bydd y trigolion hynny yn dychwelyd i Gaerffili, dylent aros yn yr ardal wedyn hyd nes bod y cyfyngiadau'n cael eu codi.

Mae’r cyngor hwn yn cael ei rannu yn rhan o Gwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru, yn unol â’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu ac mae'n dal i fod yn risg i'r cyhoedd. Cofiwch y pethau sylfaenol allweddol.

• Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.
• Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth eraill.
• Dim ond pedwar cartref estynedig sy’n cael cwrdd y tu mewn – fel cartref, ni allwch newid eich pedwar cartref estynedig.
• Dim mwy na 30 o bobl i gwrdd yn yr awyr agored.
• Gwisgwch orchudd wyneb, os oes angen. Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
• Gweithiwch gartref, os yn bosibl.

Os oes gennych unrhyw symptomau, gwnewch yn siŵr eich bod chi, ac aelodau eich cartref uniongyrchol, yn hunan-ynysu ar unwaith. Ewch i https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119 i archebu prawf.

Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel. Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar y coronafeirws ar gael yma.

08/09/2020