Etholwyd y Cynghorydd Peter Davies MBE yn Gadeirydd y Cyngor am 2019-2020 yn y Cyfarfod Blynyddol y cynhaliwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ar ddydd Gwener 17 Mai.

Wrth agor y cyfarfod ac yn ymddeol fel Cadeirydd, agorodd y Cynghorydd Hag Harris y cyfarfod drwy arwain y gymeradwyaeth i’r hwyr Gynghorydd Paul James. Yna, fe anerchodd y cyngor gan adlewyrchu ar ei flwyddyn fel Cadeirydd. Fe ddywedodd ei fod wedi cael sedd rheng flaen i nifer o ddigwyddiadau ac yn gwerthfawrogi bod llawer o gyfleoedd gwych i bobl ifanc y sir.

Ar ôl cael ei ethol fel y Cadeirydd, fe wnaeth Cynghorydd Davies o Ward Capel Dewi Ddatganiad o Dderbyn y Swydd a gafodd ei gyflwyno â’r Gadwyn gan ei rhagflaenydd. Yna fe anerchodd y cyngor gan ddweud bod cael ei ethol yn Gadeirydd yn anrhydedd fawr a’u fod yn awyddus i helpu i wasanaethu’r sir yn y flwyddyn i ddod.

Penodwyd y Parchedig Wyn Thomas yn Gaplan i’r Cadeirydd am 2019-2020.

Etholwyd y Cynghorydd Gareth Davies o Ward Llanbadarn Fawr - Padarn yn Is-gadeirydd y Cyngor. Fe wnaeth Ddatganiad o Dderbyn y Swydd ac fe gafodd ei gyflwyno ag Arwydd o’r Swydd iddo gan y Cadeirydd.

17/05/2019