Yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth eleni, mae Ail Symudiad yn dod a’u cerddoriaeth i Theatr Felinfach am noson gydag Argyfwng Canol Oed.

Ar ddydd Sadwrn, 15 Medi am 8yh, bydd y band yn perfformio yn dilyn blwyddyn brysur gydag ymddangosiadau mewn digwyddiadau megis Gŵyl Nôl a Mla’n; Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Eisteddfod Genedlaethol. Aelodau’r band presennol yw Dafydd Jones – drymiau, Lee Mason - gitâr flaen, Wyn Jones - gitâr fâs a Richard Jones - gitâr a llais.

Bydd Ail Symudiad, sydd wedi bod gyda’i gilydd ers 1978, yn cael eu cefnogi gan fand o fechgyn lleol o’r enw Argyfwng Canol Oed (ACO). Band ‘covers’ Cymraeg yw ACO a berfformiodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl TOSTA yn 2016.

Wedi eu dylanwadu gan gerddoriaeth y ‘don newydd’ a grwpiau fel Yr ‘Undertones’, ‘Buzzcocks’ a’r Trwynau Coch, amser mwya’ prysur Ail Symudiad oedd ar ddechrau’r 80au pan oeddent yn gigio mewn lleoliadau fel Canolfan Tanybont yng Nghaernarfon, Blaendyffryn yn Llandysul a phrifysgolion, neuaddau pentref, ysgolion a chlybiau ar draws Cymru. Ar yr un adeg, nhw oedd yn gyfrifol am ddenu’r gynulleidfa fwyaf i ddawns Gymraeg, a hynny yn Eisteddfod Abertawe ym 1982, yr un flwyddyn ag enillodd y band Prif Grŵp Roc Gwobrau Sgrech yng Nghorwen.

Ffurfiodd yr aelodau label Fflach er mwyn gallu rhyddhau recordiau fel ‘Geiriau’ a ‘Garej Paradwys’ a wedyn recordio grwpiau newydd oedd yn codi’r adeg hynny, yn eu mysg oedd Y Ficar ac Eryr Wen. Ers hynny, mae’r label wedi tyfu ac mae’n cynhyrchu amrywiaeth o gerddoriaeth ac erbyn hyn mae ganddynt stiwdio ddigidol hefyd.

Mae Ail Symudiad eu hunain yn dal i recordio ac wedi rhyddhau CD newydd eleni o’r enw ‘Y Man Hudol’ fel rhan o’r dathliadau. Ynghyd a’r CD, mae sgarff newydd gyda logo’r band ar gael!

Bydd Ail Symudiad ac Argyfwng Canol Oed yn Theatr Felinfach Nos Sadwrn, 15 Medi am 8yh gyda’r tocynnau yn £10. Am fwy o wybodaeth a sicrhau eich tocyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch ar-lein i theatrfelinfach.cymru.

16/08/2018