Mae trigolion Ceredigion, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos cymorth a chefnogaeth i bobl Wcráin wrth i’r gwrthdaro â Rwsia barhau i ysgwyd y wlad.

Yn dilyn adroddiadau bod aelodau o’r gymuned gyn-filwyr ledled y DU yn ceisio teithio i Wcráin i ymladd, mae Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Paul Hinge, yn tynnu sylw at y ffaith bod ffyrdd eraill y gall y gymuned gyn-filwyr yng Ngheredigion helpu.

Dywedodd y Cynghorydd Hinge: “Ceisiwch ddarbwyllo unrhyw un sy’n ystyried mynd i Wcráin i ymladd i beidio â gwneud hynny, mae’n risg ddifrifol i roi eu hunain yn y sefyllfa beryglus hon.”

Safbwynt Llywodraeth y DU o hyd yw y gallai teithio i Wcráin i ymladd, neu gynorthwyo eraill sy’n ymwneud â'r gwrthdaro, fod yn droseddau yn erbyn deddfwriaeth y DU a gallai arwain at erlyniad.

Aeth y Cynghorydd Hinge yn ei flaen: “Cyn bo hir, bydd angen i bobl gydlynu cymorth lleol i ffoaduriaid o Wcráin sy’n cyrraedd yma yng Ngheredigion. Bydd angen cymorth ariannol arnynt drwy roddion elusennol. Mae angen arian ar Wcráin, yn hytrach na gwirfoddolwyr a fydd, er bod ganddynt fwriadau da, yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau sydd eisoes o dan bwysau.

“Mae elusennau a chymdeithasau gwasanaeth yn darparu sianel o gefnogaeth a chyfeillgarwch i’n cyn-filwyr. Drwy eich rhwydweithiau, gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy sianelu eich egni a’ch brwdfrydedd yn y ffordd gywir; Bydd pobl o Wcráin sydd angen noddfa yn cyrraedd yn fuan a bydd angen cymorth ar eu cyfer yma.”

Dylid hefyd atgoffa Personél sy’n gwasanaethu nad ydych chi fel aelodau o Luoedd Arfog Prydain, p’un a ydych yn filwr rheolaidd neu’n filwr wrth gefn, wedi eich awdurdodi i deithio i Wcráin i gefnogi’r gwrthdaro parhaus yn erbyn Rwsia mewn unrhyw ffordd, p’un a ydych ar seibiant ai peidio.

Mae gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallwch helpu a chefnogi pobl Wcráin ar gael yma: https://gov.wales/supporting-people-ukraine

14/03/2022